Y Cabinet Newydd: Pwy ydy pwy?

Y Cabinet Newydd: Pwy ydy pwy?
Ddydd Iau, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford ei dîm o weinidogion a dirprwy weinidogion newydd.
Daw’r ail-strwythuro o’r cabinet wythnos union wedi i’r blaid Lafur ennill 30 o 60 seddi’r Senedd yn yr Etholiad, 6 Mai.
Ond pwy yw'r gweinidogion fydd yn gafael yn yr awenau?
Mark Drakeford - Y Prif Weinidog
Vaughan Gething - Gweinidog yr Economi
Eluned Morgan - Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jeremy Miles - Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Julie James - Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Lee Waters - Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Mick Antoniw - Darpar Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Rebecca Evans - Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Dawn Bowden - Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip
Lesley Griffiths - Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd
Jane Hutt - Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Hannah Blythyn - Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Julie Morgan - Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Lynne Neagle - Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant