Newyddion S4C

Meddyg yn cyhuddo gwleidyddion o fod yn ‘unllygeidiog o’r pwysau sydd ar y GIG’

ITV Cymru 11/01/2023
S4C

Mae ymgynghorydd mewn meddygaeth frys yn Ysbyty Treforys wedi dweud bod y system “wedi cloi yn llwyr” wrth esbonio bod rhai cleifion yn aros am hyd at 36 awr i gael eu trin yn A&E.

Wrth ddisgrifio’r sefyllfa yn ei ysbyty, dywedodd Dr Mark Poulden: “Mae gennym ni gleifion yn aros yn yr ystafell aros am hyd at 24-36 awr am welyau fel eu bod nhw yn gallu cael eu derbyn.

“Yn yr wythnos ddiwethaf, rydym ni wedi cael dyn yn dod ag aelod hŷn o’i deulu i mewn i’r adran gan nad oedd yn gallu cael ambiwlans iddo. Cafodd y dyn ataliad ar y galon yn y maes parcio yn y diwedd.

“Ry’n ni wedi cael plentyn yn dod i mewn, ond doedd dim lle i’w ddadebru felly fe ddechreuon ni ei drin ar fainc weithio ar ochr yr ardal ddadebru.

“Dw i wedi bod yn gweithio i’r GIG ers dros 20 mlynedd. Mae yna bwysau blynyddol yn y gaeaf, ond mae’r flwyddyn hon yn wahanol - mae hi fel petai’r systemau wedi cloi yn llwyr."

Fe wnaeth Mark Poulden gyhuddo gwleidyddion o fod yn “unllygeidiog” o’r pwysau o fewn y gwasanaeth iechyd a dywedodd bod angen iddyn nhw “gyfaddef bod argyfwng o fewn y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG).”

Ddydd Llun, fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford ddatgelu bod y GIG yn ddiweddar wedi profi ei ddiwrnod prysuraf erioed ers ei sefydlu.

Fodd bynnag, wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Prif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, wadu unrhyw awgrym bod yna “argyfwng”, er ei bod hi wedi derbyn bod yna  “her eithafol” i'r gwasanaeth. 

Image
newyddion

Mae Dr Poulden yn credu bod angen “cyfuno gwasanaethau” i leddfu pwysau. Fe wnaeth o alw am ddiwygio gwasanaethau cymdeithasol i helpu i gleifion adael ysbytai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bydd 500 o welyau a phecynnau gofal cymunedol yn ystod y gaeaf hwn i helpu i wagio gwelyau ysbytai. Fe wnaeth y llefarydd gadarnhau £70m yn ychwanegol i sicrhau bydd gweithwyr gofal yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol.

“Nid ydym yn tanseilio’r gwaith sydd angen ei wneud. Dwi’n credu bod angen i ni dynnu gwleidyddiaeth allan o'r system iechyd. Nid yw’r ateb yn un Llafur, Ceidwadol neu Blaid Cymru. Mae’n 'ddatrysiad cyfunol',” meddai.

“Mae’n rhaid gofyn i’r cyhoedd fod yn amyneddgar gyda ni, ond hefyd mae’n rhaid i arweinwyr gwleidyddol ein cefnogi yn ystod yr amseroedd hyn. Mae’n rhaid iddyn nhw gydnabod faint o bwysau sydd arnom ni a chyfaddef bod yna argyfwng o fewn y GIG.

“Dwi’n credu eu bod nhw yn cydnabod hyn i ryw raddau ond dwi’n credu bod yna rai sydd efallai ychydig yn ddall i lefelau’r pwysau sydd ar y GIG o ddydd i ddydd.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bydd yn cynnig taliad ychwanegol fel rhan o’r ymdrech i osgoi mwy o streiciau.

Fe wnaeth Mr Drakeford wrthod datgelu faint yn union bydd y taliad hwn, ond fe ddywedodd fod trafodaethau yn digwydd ar hyn o bryd gydag undebau llafur, mewn ymdrech i osgoi mwy o streiciau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.