Louis Rees-Zammit yn debygol o fethu dwy gêm agoriadol y Chwe Gwlad
Mae’n annhebygol bellach y bydd Louis Rees-Zammit yn holliach ar gyfer gemau agoriadol Cymru yn y Chwe Gwlad.
Cafodd asgellwr Caerloyw anaf i’w bigwrn wrth i’w dîm golli yn erbyn Caerlŷr ar Noswyl Nadolig.
Mae’n debygol o fethu ymweliad Iwerddon â Chaerdydd ar Chwefror 4 ac yna’r ornest yn erbyn yr Alban yn Murrayfield.
“Mae’n gwneud y pethau iawn,” meddai prif hyfforddwr Caerloyw, George Skivington.
“Rwy’n credu y bydd ar gael erbyn canol y Chwe Gwlad. Ond ryw fras amcangyfrif ydi hynny.”
Mae Rees-Zammit wedi methu dwy gêm i Gaerloyw yn yr Uwch Gynghrair, a bydd bellach yn gwylio i’r ymylon yn y gemau yn erbyn Leinster a Bordeaux-Begles yng Nghwpan Heineken.
Mae Rees-Zammit, sydd wedi ennill 22 o gapiau, yn un o brif arfau ymosodol hyfforddwr newydd Cymru, Warren Gatland.
Mae disgwyl i Gatland, sydd yn ei ail gyfnod wrth y llyw, enwi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad yr wythnos nesaf.
Bydd Liam Williams, Leigh Halfpenny, Josh Adams, Rio Dyer ac Alex Cuthbert ar gael, serch hynny.
Ar ôl Iwerddon a’r Alban bydd Cymru yn croesawu Lloegr ar Chwefror 25.