Carcharu tri dyn am lofruddio Tomasz Waga yng Nghaerdydd
Mae tri dyn wedi cael eu carcharu am lofruddio Tomasz Waga yng Nghaerdydd yn 2021.
Fe wnaeth Josif Nushi a Mihal Dhana dderbyn dedfryd oes am lofruddio Mr Waga, gyda Hysland Aliaj yn cael ei garcharu am 10 mlynedd am ddynladdiad yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Mawrth.
Fe wnaeth Mr Nushi, 27, a Mr Dhana, 29, ladd Mr Waga, 23, wedi iddo geisio dwyn cyffuriau o ffatri ganabis mewn tŷ ar Heol Casnewydd yn y brifddinas.
Cafodd corff Mr Waga ei ddarganfod ar y stryd yn ardal Penylan ar 28 Ionawr.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Mark O’Shea o Heddlu De Cymru fod "ein meddyliau gyda theulu Tomasz Waga, a oedd yn fab, brawd, tad a phartner cariadus.
"Roedd yn ddyn ifanc a wnaeth rhai penderfyniadau drwg ac roedd yng Nghaerdydd y diwrnod hwnnw am y rheswm anghywir, ond nid yw hyn yn esgusodi beth ddigwyddodd ar 28 Ionawr 2021. Digwyddiad a wnaeth adael teulu yn galaru a phlentyn ifanc heb dad."