Gallai Gareth Bale fod yn rhan o dîm hyfforddi Cymru meddai Rob Page
Gallai Gareth Bale fod yn rhan o dîm hyfforddi Cymru meddai Rob Page
Mae rheolwr tîm pêl-droed dynion Cymru, Rob Page, wedi awgrymu y gallai Gareth Bale fod yn rhan o dîm hyfforddi Cymru yn y dyfodol.
Cyhoeddodd Bale ddydd Llun ei fod yn "ymddeol ar unwaith o bêl-droed clwb ac yn rhyngwladol", gyda theyrngedau yn cael eu rhoi iddo ar draws y byd.
Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth, dywedodd Page y byddai'r cyn-gapten yn "fwy na hapus i helpu mewn unrhyw ffordd sydd ei angen".
"Ni fydd yn mynd i wastraff, a dwi'n awyddus i wneud hyn fy hun. Bydd trafodaethau yn cael eu cynnal a bydd rhaid disgwyl i weld pryd fydd hyn yn cael ei gyhoeddi," meddai.
"Byddwn i wrth fy modd pe bai'n gallu aros gyda ni o fewn rhyw fodd - pan mae gennych chi chwaraewr fel Gareth Bale, rydych chi eisiau ei gadw gyda'r tîm rhywsut, ond mae hynny i fyny i fi a'r tîm i siarad gyda Bale eto cyn bo hir.
"Mae'n rhaid iddo wneud synnwyr iddo ef a'i deulu a gweld sut y gallwn ni wneud hynny."
'Llysgennad'
Ychwanegodd Page ei fod wedi cael gwybod am ymddeoliad Bale ddydd Sul a dywedodd fod ei yn chwerw-felys.
"Mae wedi cynrychioli ein gwlad mor arbennig fel pêl-droediwr, ond hefyd fel llysgennad i Gymru," meddai.
"Felly mae hynny'n drist mewn ffordd oherwydd da ni ddim am weld Bale yn chwarae i Gymru byth eto, sydd yn eithaf emosiynol.
"Ond o safbwynt rheolwr, mae'n rhaid bod yn gyffrous hefyd oherwydd mae'n rhoi cyfle i Brennan (Johnson) er enghraifft i berchnogi'r safle."
O safbwynt gyrfa Bale, dywedodd Page mai ei uchafbwynt personol oedd "y gic rydd yn erbyn Wcráin, ond pan rydych chi'n edrych yn ôl ar rai o'r goliau y gwnaeth o sgorio yng Nghynghrair y Pencampwyr, y goliau pwysig sydd ganddo, mae'n anhygoel."
Roedd Page hefyd yn awyddus i weld cerflun yn cael ei greu ar gyfer Bale "nid yn unig am yr hyn mae o wedi ei wneud i'r tîm pêl-droed, ond Cymru fel gwlad".