Newyddion S4C

Syndod seren TikTok at y Wladfa yn denu cannoedd o filoedd o wylwyr

10/01/2023
TikTok Thatweirdcouplee
TikTok Thatweirdcouplee

Mae cannoedd o filoedd o wylwyr ar TikTok wedi eu denu at fideo sy’n dangos syndod ymwelwyd i Batagonia wrth iddi ddeall fod yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad yno.

Yn y fideo sydd wedi ei gwylio dros gan 300,000 o bobol mae Emmy Dent o Durham yn Lloegr yn darganfod tref Gaiman yn Chubut.

Mae seren TikTok @thatweirdcouplee yn nodi ei rhyfeddod fod yna “ddreigiau ym mhob man” a hyd yn oed y cyfle i fwynhau te bach Cymreig yn y dref.

Gaiman yw'r man lle gwelir y dylanwad Cymreig cryfaf yn Y Wladfa ac mae gan y dref tua 6,000 o drigolion.

Sefydlwyd Gaiman yn 1874 ar lannau Afon Camwy, tua 17 cilomedr o Drelew ac mae’n boblogaidd gyda thwristiaid sydd am fwynhau'r tai te Cymreig.

“Ry’n ni mewn tref yn yr Ariannin sy’n siarad Cymraeg!” meddai hi.

“Fe ddaethon nhw yma cannoedd o flynyddoedd yn ôl. Daeth 53 o bobol ar long a gymerodd ddeufis i ddod o Lerpwl ac mi’r oedden nhw i gyd yn Gymry.

“A nawr mae yna ddreigiau ym mhob man! Ac maen nhw mor falch o’u diwylliant. Ac maen nhw’n dal i siarad Cymraeg, ac maen nhw’n dod ag athrawon Cymraeg draw ac mae’n cael ei ddysgu mewn ysgolion ac maen nhw eisiau diogelu’r iaith.

“Mae hyd yn oed y tai yn debyg i rai yng Nghymru ond mae’r ffordd y maen nhw wedi eu hadeiladu yn wahanol.

“A’r arwyddion! Mae’n cŵl. A nawr da ni’n mynd i gael te pnawn Cymreig. Edrych ar y caws a bara. Mae’r frechdan yma’n wych, ac mae’r te yn neis hefyd.”

Llun: TikTok @Thatweirdcouplee

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.