Newyddion S4C

Ysgrifennydd Iechyd y DU yn beirniadu gwasanaeth iechyd Cymru

09/01/2023
Steve Barclay

Mae Ysgrifennydd Iechyd y Deyrnas Unedig wedi beirniadu gwasanaeth iechyd Cymru wrth amddiffyn ei lywodraeth ei hun.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, ymatebodd Steve Barclay i feirniadaeth o du Llafur gan ddweud bod amseroedd aros yn Lloegr yn ffafriol o gymharu â Chymru.

“Beth am inni edrych ar sut y mae’n mynd, o gymharu â [nifer y cleifion sydd wedi bod yn disgwyl] dwy flynedd yng Nghymru lle mae Llywodraeth Lafur,” meddai.

“Cyn y Nadolig, roedd tua 60,000 o bobl yng Nghymru wedi bod yn aros am fwy na dwy flynedd; yn Lloegr roedd llai na 2,000.”

Ychwanegodd: “Yn Ffrainc, yr Almaen, Canada a llawer o wledydd eraill, mae'r cynnydd enfawr mewn ffliw a phwysau covid, ynghyd â phwysau o'r pandemig, wedi rhoi straen tebyg ar systemau gofal iechyd,” meddai.

“Yn syml, nid yw’n wir fod y mater yn effeithio ar Loegr yn unig.”

Ychwanegodd fod “pwysau, yn enwedig ynghylch cyfraddau ffliw a chovid, yn rhywbeth sydd wedi rhoi pwysau aruthrol ar y GIG yng Nghymru a’r Alban".

‘Ymdopi’n well’

Serch hynny fe wynebodd Steve Barclay haeriad gan un o ASau'r Ceidwadwyr fod gan Lafur gwell cynllun ar gyfer y GIG.

Dywedodd y cyn-weinidog Syr Edward Leigh fod pobol oedd wedi talu trethi ar hyd eu hoes yn wynebu “cefn ciw dwy flynedd” am driniaeth feddygol.

Dywedodd AS Gainsborough, Syr Edward, wrth Dŷ’r Cyffredin: “Mae ganddyn nhw hefyd Covid a ffliw yn Ffrainc neu’r Almaen neu’r Eidal neu Sweden neu’r Iseldiroedd.

“A gaeaf ar ôl gaeaf maen nhw'n ymdopi'n llawer gwell oherwydd bod ganddyn nhw systemau yswiriant cymdeithasol llawer mwy integredig.

“Beth yw ein cynllun tymor hir? Mae gan y Blaid Lafur gynllun hirdymor a does gyda ni ddim.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.