
Cyngor i gadw plant i ffwrdd o'r ysgol os ydynt yn sâl gyda gwres

Cyngor i gadw plant i ffwrdd o'r ysgol os ydynt yn sâl gyda gwres
Mae arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus yn atgoffa rhieni yng Nghymru i gadw plant i ffwrdd o'r ysgol os ydynt yn sâl gyda gwres, yn dilyn cynnydd mewn salwch fel ffliw.
Mae'n un o nifer o gamau syml y gall rhieni eu cymryd i amddiffyn eu plentyn a lleihau lledaeniad salwch y gaeaf pan fydd plant yn dychwelyd i'r ysgol a meithrinfeydd yng Nghymru'r wythnos nesaf.
Mae Steffan Griffiths, Pennaeth Ysgol Gynradd Nantgaredig yn annog rheini i wrando ar y cyngor hwn.
“Os nad yw’r plant yn iach cadwch nhw adref a danfon nhw nôl pan maen nhw’n well,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Beth welon ni am sbel cyn y Nadolig oedd presenoldeb yn gwella ac yna am y wythnosau cyn 'na, salwch yn lledaenu eto, stumogau a gwddw tost. Symptomau Covid heb y profi falle.
“Nath hwnna effeithio ar y staff, sawl aelod o staff gyda Covid a wir sâl gyda fe hefyd. Yn amlwg roedd hwnna’n her.
“Mae’n heriol hefyd i staff ychwanegol yn lle’r bobl yma gan fod y salwch ar draws bob ysgol.”
Ond dyw’r cyngor ddim mor hawdd i’w ddilyn yn ôl un rhiant.
“Dwlen ni gael yr opsiwn o ‘wrth gwrs arosa adre’ ond dyw e ddim mor rhwydd â 'ny, achos mae’n rhaid i ni weithio,” meddai Eleri Evans.

“Mae’n rhaid i fi fod yn y gwaith ac mae’n rhaid i’r gŵr fod yn gwaith a pan does neb da chi ma’ fe mor mor galed.
“Ni’n deall y cyngor a’i safbwynt nhw hefyd ond ni’n trio ein gorau, ond ma’ fe’n galed iawn ac mae’n rhaid gweithio. Yn enwedig nawr, gyda biliau yn codi ma’ rhaid i’r arian ddod o rywle.”
Ychwanegodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod hi’n hanfodol i atgoffa plant hefyd am bwysigrwydd y pethe syml sy’n atal lledaeniad salwch.
Dywedodd Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru; “Mae hefyd yn bwysig atgoffa plant am bwysigrwydd golchi eu dwylo i osgoi lledaenu germau a dal peswch a thisian mewn hancesi papur.
“Dylai oedolion hefyd geisio aros gartref pan fyddant yn sâl. Os oes rhaid iddynt fynd allan pan fyddant yn sâl, mae'n syniad da gwisgo gorchudd wyneb i amddiffyn eraill.”
”Y ffordd orau o amddiffyn yn erbyn dal ffliw'r gaeaf hwn yw i'r rhai sy'n gymwys gael y brechlyn ffliw. Mae ei sgil-effeithiau yn ysgafn ac fel arfer dim ond yn para am ychydig ddyddiau.”