Dau ddyn o Brydain ar goll yn Wcráin
09/01/2023
Mae dau ddyn o Brydain ar goll yn yr Wcráin, yn ôl heddlu'r wlad.
Dywedodd swyddogion fod Andrew Bagshaw, 48, a Christopher Perry, 28, wedi'u gweld ddiwethaf ddydd Gwener.
Roedd y ddau ar y ffordd i dref Soledar yn rhanbarth Donetsk yn nwyrain y wlad, lle mae ymladd trwm wedi bod, cyn mynd ar goll.
Roedd Bagshaw, sydd yn byw yn Seland Newydd, yn Wcráin i gynorthwyo gyda chymorth dyngarol, yn ôl adroddiadau o Seland Newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Rydym yn cefnogi teuluoedd dau ddyn o Brydain sydd wedi mynd ar goll yn yr Wcráin.”