Darganfod corff ail fenyw mewn afon ym Mhowys
Mae corff ail fenyw sydd wedi bod ar goll mewn afon ym Mhowys ers dydd Mercher, 6 Ionawr wedi cael ei ddarganfod.
Fe wnaeth yr heddlu ddarganfod corff y fenyw o'r afon yng Nglyn-nedd ddydd Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Rhaeadr Ystradfellte am 11:45 ddydd Mercher ar ôl i gerddwr weld dau berson yn yr afon.
Ddydd Iau, 7 Ionawr fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau fod corff menyw arall wedi cael ei dynnu o'r afon.
Roedd y Gwasanaeth Tân, tîm achub mynydd, a hofrennydd yr heddlu yn cynorthwyo gyda’r chwilio.
Mae teuluoedd y ddwy fenyw yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.