Newyddion S4C

Gareth Bale: Teyrngedau i'r chwaraewr athrylithgar ar ddiwedd gyrfa ddisglair

09/01/2023

Gareth Bale: Teyrngedau i'r chwaraewr athrylithgar ar ddiwedd gyrfa ddisglair

Mae teyrngedau wedi eu rhoi yn dilyn cyhoeddiad capten Cymru, Gareth Bale, ei fod yn ymddeol o chwarae pêl-droed.

Cyhoeddodd Bale ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol a'i glwb ddydd Llun. 

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford ei bod hi'n "ddiwrnod trist ond hefyd yn ddiwrnod i ddathlu un o oreuon Cymru.

"Dangosaist yr hyn y gallwn ni gyflawni, a throi ein breuddwydion yn realiti. Ti wedi rhoi Cymru ar y map. Diolch am bopeth Gareth."

Chwaraeodd Bale i glwb Tottenham Hotspur a Real Madrid, ac fe wnaeth Spurs ei longyfarch "am yrfa anhygoel."

Mewn datganiad, dywedodd Real Madrid fod "Bale yn rhan o'n tîm yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf llwyddianus yn hanes ein clwb.

"Pob lwc Gareth, a dymuniadau gorau i ti a dy deulu."

Ychwanegodd y comedïwr Elis James fod cefnogwyr Cymru wedi "cael atgofion nad oeddem ni byth yn ddychmygu eu cael. Bale ydy'r gorau rydym ni wedi ei greu mewn 147 mlynedd o bêl-droed rhynglwadol Cymru." 

Dywedodd y cyn-bêl-droediwr John Hartson mai Bale ydy "chwaraewr gorau Cymru erioed, ac mae hynny'n dweud rywbeth o ystyried y mawrion eraill rydym ni wedi eu gweld. Atgofion hudolus, goliau anhygoel, talent unigryw, a Chymro balch."

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, "does dim geiriau i ddisgrifio ei gyfraniad i Bêl-droed Cymru, ac i Hyder Cymru.

"Diolch o galon am yr atgofion helaeth Gareth, mae dy yrfa wedi ysbrydoli cenedl gyfan."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.