Rhybudd melyn am law i ran helaeth o'r wlad
Mae rhybudd melyn am law wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhan helaeth o Gymru ddydd Mawrth.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd y glaw trymaf ar dir uchel, gyda hyd at 80-100mm yn debygol o syrthio mewn rhannau o Eryri.
Mae'r rhybudd yn golygu bod llifogydd yn debygol a gallai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a theithiau ceir gael eu hoedi gan gyflwr y ffyrdd.
Fe ddaeth y rhybudd i rym am 6:00 fore Mawrth ac fe fydd yn parhau tan 20:00 nos Fawrth.
Persistent and at times heavy rain is expected across many areas of the UK on Tuesday 🌧️
— Met Office (@metoffice) January 9, 2023
This rain fall chart shows where the highest totals are likely to be...👇 pic.twitter.com/py3bLj9E1v
Mae 16 o siroedd wedi eu heffeithio gan y rhybudd melyn, sef:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Caerffili
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Ddinbych
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Torfaen
- Wrecsam