Newyddion S4C

Pryder fod enwau Saesneg yn cael eu ‘dileu’ yn y Drenewydd

09/01/2023
Jackie Molloy Davies a safle Travis Perkins y Drenewydd
Jackie Molloy Davies a safle Travis Perkins y Drenewydd

Mae cynghorydd tref wedi mynegi pryder fod enwau Saesneg yn cael eu “dileu” yn y Drenewydd.

Dywedodd Jackie Molloy Davies ei bod hi’n ofni y byddai enwau Cymraeg yn anoddach i ffoaduriaid eu hynganu.

Daeth ei sylwadau wrth i Gyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaearn groesawu cais gan Gyngor Sir Powys i newid enw cyn iard Travis Perkins Millers Place i Blas Melinydd.

“Does gen i ddim problem o gwbl achos es i i ysgol Gymraeg fy hun ond yr hyn rwy’n poeni yn ei gylch yw bod llawer o ffoaduriaid yn dod yma,” meddai Jackie Molloy Davies wrth y Powys County Times.

“Maen nhw yn dysgu Saesneg yn unig a dwi’n teimlo drostyn nhw bod ynganiad y Gymraeg yn gallu bod yn anodd.

"Dwi braidd yn bryderus ein bod ni'n dileu'r Saesneg allan o'r enwau lleoedd ac mae'r bobl yma'n dod yma i ddysgu Saesneg cyn dysgu Cymraeg.

“Ac os ydyn nhw'n cael cartref yn yr eiddo yma fe fydd yn anodd iddyn nhw. Dwi'n poeni am yr agwedd yna."

Derbyn

Mae disgwyl y bydd y datblygiad newydd rhwng Eglwys Dewi Sant a Chroesawdy yn y dref yn cynnwys 32 o fflatiau fforddiadwy o fewn bloc pedwar llawr.

Roedd cynghorwyr wedi awgrymu y dylai'r tai ynni effeithlon newydd sy'n cael eu hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru gael enw Cymraeg.

Er gwaethaf pryderon Jackie Molloy Davies penderfyniad dderbyn yr enw Cymraeg yn unig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.