Newyddion S4C

Dros hanner miliwn o oedolion Cymru wedi treulio’r Nadolig mewn ‘amodau Fictoraidd’

09/01/2023
Cynhesu dwylo oer. Llun gan Peter Byrne / PA

Treuliodd dros hanner miliwn o oedolion yng Nghymru y Nadolig mewn amodau “tebyg i oes Fictoria”, yn ôl elusen.

Mae arolwg YouGov a gomisiynwyd gan ymgyrch Cynnes y Gaeaf Hwn yn datgelu cynifer o Gymru dreuliodd y cyfnod mewn cartrefi oer a llaith.

Yn ôl y canlyniadau mae 20% o boblogaeth Cymru (615k o oedolion) yn byw mewn cartrefi oer a llaith 25% o’r rheini yn methu â chynhesu eu cartrefi i safon ddiogel.

Dywedodd Simon Francis, Cydlynydd y Gynghrair Dileu Tlodi Tanwydd, sy’n rhan o’r ymgyrch Cynnes Gaeaf Yma bod miliynau bellach yn byw mewn “amodau Dickensaidd”.

“Ac eto, er bod biliau ynni wedi cynyddu o 1 Ebrill 2023, bydd y cymorth ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth mewn gwirionedd yn gostwng yn 2023/24.

“Er ein bod yn cefnogi'r egwyddor o flaenoriaethu cymorth i'r rhai sydd ei angen fwyaf, rhaid i'r Llywodraeth fynd ymhellach i helpu'r miliynau o gartrefi sydd mewn tlodi tanwydd."

‘Safon’

Mae'r pôl hefyd yn awgrymu nad yw pobl Prydain yn poeni am eu lles eu hunain yn unig.

Mae un o bob deg o boblogaeth Prydain (9%) yn poeni am berthynas hŷn yn dod i gysylltiad ag effeithiau iechyd byw mewn cartref oer a llaith. Roedd bron i draean (27%) yn poeni am effaith tlodi tanwydd ar eu cymuned leol.

Ac er gwaethaf ymgyrchoedd Llywodraeth y DU yn galw ar bobl i arbed ynni, mae dros hanner (55%) yn credu eu bod eisoes wedi gweithredu mesurau lleihau ynni cyn y gaeaf hwn - gyda 15% eisoes yn torri eu defnydd o ynni i'r lleiafswm angenrheidiol i gadw'n ddiogel.

Dywedodd Bethan Sayed, Cydlynydd Ymgyrchoedd Cymru Cynnes Gaeaf Yma ar gyfer Climate Cymru, bod yr ystadegau yn dangos bod “angen dybryd” i Lywodraeth Cymru gyflwyno “rhaglen ynni effeithlon uchelgeisiol yng Nghymru”.

“Dylai hyn dargedu’r aelwydydd yr effeithir arnynt waethaf yn gyntaf, rhoi blaenoriaeth i wella ffabrig y tŷ â mesurau effeithlonrwydd ynni, a chyfuno dull fesul stryd a chymorth ar-alw i aelwydydd sy’n agored i niwed lle bynnag y maent,” meddai.

“Rhaid inni sicrhau bod yr holl dai newydd yng Nghymru yn cael eu hadeiladu i’r safon effeithlonrwydd uchaf posibl, ochr yn ochr â chymorth pellach i gwmnïau ynni cymunedol sy’n ail-fuddsoddi eu helw mewn rhaglenni effeithlonrwydd ynni.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid gynhyrchu gwybodaeth a chyngor o ansawdd da sy’n hawdd cael gafael arnynt ar y cymorth a’r grantiau sydd ar gael, gan amlinellu’r arbedion nodweddiadol a’r costau ymlaen llaw.”

Llun gan Peter Byrne / PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.