Amgueddfa yn Eryri i gau ei drysau am flwyddyn
Bydd un o brif amgueddfeydd Eryri yn cau fis nesaf am flwyddyn ar gyfer gwaith ailddatblygu.
Bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn cau ym mis Tachwedd ar gyfer ailddatblygiad gwerth 21 miliwn, ac ni fydd yn ailagor tan 2026.
Nod yr ailddatblygiad fydd rhoi "bywyd newydd" i'r amgueddfa ac yn ei thrawsnewid i fod yn atyniad o safon safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Fe lwyddodd ardal llechi Gwynedd i fod ar restr Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO ym mis Gorffennaf 2021.
Fel rhan o'r gwaith, bydd yr adeiladau Gradd 1 nodedig yn cael eu cadw’n saff a’u hadnewyddu.
Bydd canolfan addysg newydd, man chwarae, siop a chaffi hefyd yn cael eu hadeiladu.
'Trawsnewid'
Dywedodd Jane Richardson, prif weithredwr Amgueddfa Cymru, y bydd yr ailddatblygiad yn “trawsnewid sut rydym yn adrodd stori llechi” .
“Bydd y prosiect yn diogelu ein hamgueddfa a’n casgliadau sydd â phwysigrwydd byd-eang fel y gall cenedlaethau a chymunedau’r dyfodol brofi a mwynhau stori anhygoel llechi. Bydd yn trawsnewid sut rydym yn adrodd stori llechi, gan wneud profiad ein hymwelwyr hyd yn oed yn fwy cyffrous,” meddai.
“Hoffem ddiolch i’n partneriaid a’n cyllidwyr, Cyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – hebddynt hwy, a chefnogaeth y gymuned leol, ni fyddai’r gwaith hwn yn bosibl.”
Ychwanegodd: “Ni allwn aros i groesawu ymwelwyr yn ôl yn 2026.”
'Cyffrous'
Er y bydd safle’r amgueddfa ar gau, bydd stori a hanes y llechi yn parhau i gael ei adrodd, meddai Elen Roberts, pennaeth Amgueddfa Lechi Cymru.
“Yn 2025, byddwn yn mynd â’r amgueddfa ar daith, ac yn gweithio gyda’n partneriaid mewn atyniadau a digwyddiadau cymunedol cyfagos,” meddai.
“Rydyn ni’n gyffrous iawn am wneud pethau ychydig yn wahanol a chael mynd tu hwnt i furiau’r amgueddfa, gan ddysgu gan ymwelwyr a chymunedau lleol ac ymgysylltu â nhw wrth ail-ddweud stori llechi.”
Fe gafodd yr amgueddfa ei hagor am y tro cyntaf ym mis Mai 1972 fel Amgueddfa Chwareli Gogledd Cymru, yn dilyn cau chwarel Dinorwig ym 1969.
Ers hynny mae dros 4 miliwn o bobl wedi ymweld â'r amgueddfa.
(Llun: Geography Photos/UIG)