'Diwrnod prysuraf yn hanes y GIG yng Nghymru' ar 27 Rhagfyr
27 o Ragfyr y llynedd oedd y 'diwrnod prysuraf yn hanes y gwasanaeth iechyd yng Nghymru', yn ôl Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford.
Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, dywedodd Mr Drakeford fod 550 o bobl wedi eu derbyn mewn ysbytai yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw.
Ychwanegodd fod yna "nifer fawr o bobl sydd yn yr ysbyty, ond yn barod yn feddygol i gael eu rhyddhau o'r ysbyty."
Dywedodd fod gan y gwasanaeth iechyd 508 o welyau ar gael mewn ysbytai ar hyn o bryd, ac nad yw hyn yn broblem yn sgil arian, ond fod y broblem yn ymwneud â chapasiti a staffio, a "dyna ydy'r ateb ar gyfer y cwestiwn o gael ysbytai dros dro."
Yn ôl Mr Drakeford, nid yw 1,000 o weithwyr y gwasanaeth iechyd yn gallu gweithio ar hyn o bryd yn sgil Covid-19, gyda 200 ychwanegol ddim yn gweithio gan eu bod yn gysylltiadau agos.
'Ddim yn argyfwng parhaus'
Dywedodd Mr Drakeford fod yna ddyddiau lle mae gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd yn "delio gydag argyfwng, gyda'r dyddiau anoddaf o gwmpas 27 Rhagfyr, ond yn ffodus, mae'r pwysau wedi lleihau ychydig dros yr wythnos ddiwethaf.
"Nid yw'n argyfwng parhaus, ond mae yna ddiwrnodiau lle mae'r pwysau o fewn y gwasanaeth wedi teimlo fel eu bod yn delio ag argyfwng o'r fath. Bydd y gofynion ym mis Ionawr yn parhau, ond nid yw'n argyfwng parhaus."
Wrth ymateb i sylwadau Mr Drakeford yn y gynhadledd, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, fod angen "cydnabyddiaeth mai dyletswydd gweinidogion Llafur ym Mae Caerdydd ydy penderfyniadau yn ymwneud â chyflogau'r GIG, a ni ddylai fod wedi cymryd mor hir i gyrraedd y pwynt lle mae nyrsys, gweithwyr ambiwlans a bydwragedd i gyd yn pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol yng Nghymru."
Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, nad oedd "prin unrhyw sylw i'r argyfwng mewn gofal cymdeithasol yn ystod araith y prif weinidog. Mae hyn er gwaetha'r ffaith fod yr argyfwng yma yn cyfrannu'n uniongyrchol i'r argyfwng mewn adrannau brys.
"Ar hyd a lled Cymru, mae yna gleifion sydd yn barod i gael eu rhyddhau ond ddim yn gallu gwneud hyn yn ddiogel oherwydd nad oes yna wasanaethau gofal iechyd yn eu lle er mwyn eu cefnogi."