Newyddion S4C

Protestwyr asgell dde eithafol yn ymosod ar Gyngres Brasil

09/01/2023
Terfysg Brasil

Mae protestwyr asgell dde eithafol wedi ymosod ar nifer o adeiladau llywodraethol ym Mrasil, gan gynnwys Adeilad y Gyngres a Goruchaf Lys y wlad. 

Fe wnaeth tua 3,000 o gefnogwyr y cyn-arlywydd asgell dde, Jair Bolsanaro, ymosod ar sawl safle o eiddo i’r wladwriaeth, yn y brif ddinas Brasilia ddydd Sul. 

Daw hyn wythnos yn unig ar ôl i Arlywydd newydd y wlad, Luiz Inacio Lula da Silva, drechu Bolsanaro yn yr etholiadau ym mis Hydref. 

Ond mae Bolsanaro a nifer o'i gefnogwyr yn gwrthod derbyn canlyniad yr etholiad. 

Mae sylwebwyr gwleidyddol wedi cymharu’r ymosodiad ddydd Sul, gyda’r terfysg ar adeilad y Capitol yn yr UDA ar ôl colled Donald Trump yn etholiad 2020, pan wnaeth protestwyr wthio heibio rhwystrau diogelwch.

Nid oes unrhyw adroddiadau o anafiadau nag unrhyw farwolaethau yn sgil y terfysg, ond fe wnaeth y protestwyr achosi difrod sylweddol i sawl adeilad. 

Mae lluoedd diogelwch Brasil bellach wedi ail-gipio rheolaeth o adeiladau y Gyngres, Goruchaf Lys a’r palas arlywyddol. 

Yn sgil y terfysg, dywedodd yr Arlywydd Lula bod y protestwyr yn "ffasgwyr" a’u bod fel llywodraeth y wlad yn bwriadu "darganfod a chosbi" y rhai sy’n gyfrifol.

Mae Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth y DU, James Cleverly, wedi dweud fod gan yr Arlywydd Lula "gefnogaeth lawn" y DU yn dilyn yr ymosodiad. 

Fe wnaeth Arlywydd yr UDA, Joe Biden, hefyd gynnig ei gefnogaeth i Lula, gan ddweud ni all dymuniadau pobl Brasil gael eu tanseilio gan y protestwyr.

Llun: Getty Images / Wochit 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.