'Cyffro' ar drothwy lansiad y roced cyntaf o dir y DU
Mae'r tîm sydd tu ôl i'r lansiad roced cyntaf o dir y DU wedi dweud eu bod yn gyffrous wrth iddyn nhw baratoi am y lansiad nos Lun.
Mae'r paratoadau olaf yn cael eu cwblhau cyn i nifer o loerennau gael eu hanfon i'r gofod o Faes Awyr Cernyw.
Mae'r ffenestr gyntaf ar gyfer yr antur hanesyddol yn agor am 22:16 nos Lun, gyda dyddiadau wrth gefn yn parhau hyd at ddiwedd mis Ionawr.
Mae'r daith wedi ei henwi'n Start Me Up ar ôl cân enwog y Rolling Stones yn 1981.
Bydd awyren Virgin Atlantic Boeing 747, sydd wedi ei alw'n Cosmic Girl, yn gadael Cernyw gan gario'r roced.
Tua awr ar ôl dechrau'r hediad bydd y roced yn cael ei ryddhau 35,000 troedfedd dros Gefnfor yr Iwerydd i'r de o Iwerddon.
Bydd yr awyren wedyn yn dychwelyd i'r maes gofod wrth i'r roced danio'i injan a chymryd sawl lloeren fechan i'r gofod.
Dyma fydd y lloerennau cyntaf i gael eu hanfon i'r gofod o Ewrop.
Hyd yn hyn, mae lloerennau sydd wedi eu cynhyrchu yn y DU wedi gorfod cael eu hanfon i feysydd gofod tramor er mwyn cyrraedd y gofod.
Dywedodd Ian Annett, dirprwy brif weithredwr Asiantaeth Ofod y DU ei fod yn "hynod gyffrous".
"Pwy fyddai ddim wedi eu cyffroi gan y ffaith mai dyma'r tro cyntaf i hyn gael ei wneud yn Ewrop? Mae hynny achos ei fod yn anodd," meddai.
"Mae pwynt pan mae'r hyfforddiant yn cymryd drosodd ac rydych yn darganfod y rhythm hynny o dimoedd yn gwybod beth sydd angen iddyn nhw ei wneud."
Llun: PA