Cwpan yr FA: Wrecsam i wynebu Sheffield United yn y bedwaredd rownd
Fe fydd Wrecsam yn chwarae yn erbyn Sheffield United ym mhedwaredd rownd Cwpan yr FA.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae yn y Cae Ras rhwng 27 a 30 Ionawr.
Roedd buddugoliaeth o 4-3 yn erbyn Coventry oddi cartref yn ddigon i sicrhau eu lle yn y rownd nesaf.
Ond bydd yn rhaid i Abertawe a Chaerdydd aros i ddarganfod eu tynged gyda'r ddau dîm yn gyfartal yn eu gemau.
1-1 oedd y sgôr yn y gêm rhwng Abertawe a Bristol City, tra bo cic gosb yn ystod amser ychwanegol yn ddigon i rwystro Caerdydd rhag buddugoliaeth yn erbyn Leeds (2-2).
Bydd y ddau yn mynd ati i ail-chwarae eu gemau yn y dyddiau nesaf.
Os yw Caerdydd yn ennill byddan nhw'n wynebu Boreham Wood neu Accrington Stanley oddi cartref.
Pe bai Abertawe yn llwyddo i sicrhau buddugoliaeth, byddan nhw'n chwarae yn erbyn Chesterfield neu West Bromwich Albion adref.
Llun: CPD Wrecsam