Abertawe yn cynnig tocynnau rhad ac am ddim i gefnogwyr

Bydd Abertawe yn croesawu cefnogwyr yn ôl i Stadiwm Liberty ar gyfer gêm gynderfynol ail gymal eu gemau ail gyfle yn y Bencampwriaeth yn erbyn Barnsley.
Bydd 3,000 o docynnau ar gael i gefnogwyr yn rhad ac am ddim ar gyfer y gêm fydd yn cael ei chwarae ddydd Sadwrn, 22 Mai.
Nid oes cefnogwyr wedi cael mynychu gemau'r Elyrch ers mis Mawrth, 2020.
Mae'r clwb yn cynnig y tocynnau am ddim er mwyn "gwobrwyo teyrngarwch" y cefnogwyr sydd wedi parhau i gefnogi'r clwb yn ystod y pandemig, meddai Wales Online.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans