Newyddion S4C

Angen i weinidogion Llafur 'roi'r gorau i osgoi cyfrifoldeb' am y GIG

08/01/2023
Doctoriaid / Nyrsys / Ward / Ysbyty

Mae angen i weinidogion Llafur "roi'r gorau i osgoi cyfrifoldeb" am gyflwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Daw sylwadau Russell George, y Gweinidog Iechyd Cysgodol, wrth i Rishi Sunak gynnal cyfarfod brys yn Downing Street dros y penwythnos i drafod argyfwng y GIG yn Lloegr.

Dywedodd Mr George ei fod yn "falch" fod y Ceidwadwyr yn cymryd y "pwysau mae'r GIG yn ei wynebu o ddifrif ac yn ymateb i'r heriau".

Ychwanegodd yr AS dros Sir Drefaldwyn: "Tra bo'r Prif Weinidog yn cynnal trafodaethau argyfwng, dyw Gweinidog Iechyd Llafur heb wneud datganiad i'r Senedd ers mis Hydref.

"Mae angen i weinidogion Llafur roi'r gorau i osgoi cyfrifoldeb, cymryd rheolaeth ar unwaith o fawredd yr argyfwng maen nhw wedi ei alluogi a stopio torri'r holl gofnodion anghywir."

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ar Radio Cymru ddydd Sul: "Ni wedi bod yn paratoi am hyn ers misoedd lawer."

"Mae gyda ni 500 o welyau ychwanegol eisoes yn ein cymunedau ni ac yn wahanol i Loegr, yn lle gwneud y cyhoeddiad a wedyn gobeithio bydde pethau'n cael ei delifro, ni wedi delifro rheiny eisoes a ma' mwy i ddod.

"Ar ben hynny, 'yn ni wedi cyflwyno gwasanaeth er enghraifft yr urgent primary care centres, mae rheiny nawr ar gael yng Nghymru, doedden nhw ddim ar gael llynedd, same day emergency care centres, ma' rheiny ar gael, ma' gwasanaeth 111 ar gael ar draws Cymru gyfan.  Doedd ddim un o rhein mewn lle amser hyn y llynedd, ac wrth gwrs 'yn ni wedi hefyd recriwtio lot fwy o bobl i'n helpu ni yn y gwasanaeth ambiwlans.

"Ond y ffaith yw dyw e ddim yn ddigon, mae'r galw wedi bod yn aruthrol, yn rhannol o ganlyniad i Covid a mae lefelau Covid yn aruthrol o uchel ar hyn o bryd, un mewn 18 unwaith eto.  Diolch byth mae'r ffaith bod gymaint o bobl wedi cael eu vaccinations nhw yn golygu bod mwy wedi eu diogelu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.