'Calonnau ar chwâl' yn dilyn marwolaeth dyn ar fferm ar Ynys Môn
Mae "calonnau ar chwâl" yn sgil marwolaeth dyn fu farw yn dilyn digwyddiad ar fferm ar Ynys Môn.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ffrind agos i Macauley Owen y bydd bob amser yn ddiolchgar "am yr eiliadau, atgofion a chwerthin y cawsom dros y blynyddoedd maith o gyfeillgarwch a rannom".
Cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd ddydd Gwener fod dyn 26 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad ar fferm yng Ngharreglefn, Amlwch.
Cafodd swyddogion eu galw am 21:15 nos Fawrth yn dilyn adroddiad bod dyn wedi cael ei anafu wrth weithio ar fferm.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Stoke, ond bu farw yn yr ysbyty o ganlyniad i'w anafiadau.
Mae'r teulu wedi cael gwybod a bydd yr heddlu'n cynorthwyo'r crwner gyda'u hymchwiliadau.
Dywedodd Osian Evans: "Bob amser yn gweithio'n galed, hapus, gwenu, chwerthin a jocian. Bydd hi byth yr un peth hebot ti.
"Ymlacia frawd, bydd cymaint yn dy wirioneddol golli! Disgleiria'n llachar fyny yno".