Newyddion S4C

Apêl am wybodaeth ar ôl difrod mewn clwb pêl-droed yng Ngheredigion

07/01/2023
Penrhyn-coch FC

Mae clwb pêl-droed yn y gogledd yn apelio am wybodaeth wedi i lochesi (dug-outs) y clwb gael eu difrodi.

Mae Clwb Pêl-droed Penrhyn-coch yn chwarae yng nghynghrair y Cymru North - yr ail haen o system bêl-droed ddomestig Cymru.

Yn ôl y clwb, mae'r heddlu wedi cael gwybod am y difrod yng Nghae Baker ac y bydd swyddogion yn archwilio'r ardal yn y dyfodol agos fel nad yw'n digwydd eto.

Dywedodd y clwb mewn datganiad eu bod yn rhagweld y bydd y difrod yn costio tua £400 er mwyn atgyweirio.

Maen nhw'n annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i rannu'r wybodaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.