'Anrhydedd' i Jason Mohammad gyflwyno Heno am y tro cyntaf
Mae'r cyflwynydd Jason Mohammad wedi dweud ei bod hi'n anrhydedd iddo gyflwyno cyfres Heno am y tro cyntaf.
Fe gyflwynodd ei bennod gyntaf ar S4C nos Wener gan ei disgrifio fel rhaglen y mae "wastad wedi gwylio a'i hedmygu".
Ddechrau mis Tachwedd cafodd Jason Mohammad ei gyhoeddi fel "Llysgennad" i S4C.
Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd ei daith yn annog eraill i ddysgu'r Gymraeg gan ei fod yntau wedi dysgu ac yna cwblhau ei radd yn y Gymraeg.
Newydd cyflwyno @HenoS4C am y tro cyntaf 🤗
— Melanie Carmen Owen (@MelanieCarmen_) January 5, 2023
2️⃣0️⃣2️⃣3️⃣ pic.twitter.com/pcHl9ZHG3W
Nid Jason yw'r unig gyflwynydd newydd ar y gyfres, nos Iau fe gyflwynodd Melanie Owen Heno am y tro cyntaf.
Mae disgwyl i Jason Mohammad gyflwyno'i bennod nesaf o Heno nos Wener nesaf am 19:00 ar S4C.