Newyddion S4C

Beic modur oddi-ar y ffordd yn taro dyn yn ei 90au yn Llanelli

07/01/2023
Llanelli High Street

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth wedi i yrrwr beic modur oddi-ar y ffordd daro dyn yn ei 90au yn Llanelli.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar High Street ger y gyffordd gyda Ffordd y Frenhines Victoria toc cyn 17:00 nos Wener.

Cred yr heddlu yw bod gyrrwr y beic modur wedi gyrru'r ffordd anghywir lawr y stryd.

Mae'r dyn yn ei 90au a gafodd ei daro wedi ei gludo i'r ysbyty lle mae'n parhau i fod mewn cyflwr sefydlog ar ôl torri "sawl" asgwrn yn ei gorff a'i wyneb.

Er iddo ddod oddi ar y beic ei hun, fe adawodd gyrrwr y beic y lle ac mae'r heddlu yn awyddus i'w adnabod.

Y gred yw bod gan y gyrrwr wallt brown, byr a'i fod yn gwisgo dillad tywyll, helmed werdd ac yn cario bag llwyd ar ei gefn.

Mae'r beic wedi ei ddisgrifio fel un du ac yn gerbyd oddi ar y ffordd a adawodd am gyfeiriad canol y dref.

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth neu i'r person dan sylw gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod DP-20230106-238.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.