Y Cymro sy’n mynd ar wyliau i Awstralia er mwyn gweithio ar drenau stêm
Mae un o hoelion wyth Rheilffordd Talyllyn yn mynd ar wyliau blynyddol i Awstralia er mwyn cael gweithio ar drenau stêm yno hefyd.
Mae Will Smith, 33 oed, yn teithio i ben arall y byd bob blwyddyn i weithio ar Reilffordd Puffing Billy hanesyddol Victoria.
Ym 1951, Talyllyn oedd y rheilffordd gyntaf yn y byd i gael ei rhewi mewn amser a’i chynnal gan wirfoddolwyr, a gwnaethpwyd yr un peth ar Reilffordd Puffing Billy yn yr 1960au.
Cyrhaeddodd Will Awstralia ar Nos Galan ac mae’n treulio 15 diwrnod, 12 awr y diwrnod, yn Melbourne yn gweithio ar y rheilffordd yno fel rhan o wyliau mis o hyd.
“Mae rhai o fy ffrindiau’n meddwl fy mod i’n wallgof am fynd yr holl ffordd a gwneud hyn, ond mae’n rhywbeth ydw i'n ei fwynhau,” meddai.
“Mae’n dda rhoi rhywbeth yn ôl i’r rheilffordd a chadw’r berthynas rhwng y ddwy reilffordd yn fyw.
“Byddai rhai pobl wrth eu bodd yn eistedd wrth ymyl pwll nofio am rai dyddiau, ond rwy’n mwynhau hyn.”
Dywedodd prif weithredwr Puffing Billy Railway, Peter Abbott, fod gwirfoddolwyr fel Smith yn anhepgorol yn ystod yr haf pan fydd y rheilffordd ei phrysuraf.
Bu Mr Abbott hefyd yn ymweld â Thalyllyn yr haf diwethaf pan arwyddodd cytundeb rhwng y ddwy reilffordd.