Dyn wedi marw yn dilyn digwyddiad ar fferm yn Ynys Môn
Heddlu
Mae dyn 26 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad ar fferm yng Ngharreglefn, Amlwch.
Cafodd yr heddlu eu galw am 21:15 nos Fawrth yn dilyn adroddiad bod dyn wedi cael ei anafu wrth weithio ar fferm yn ardal Amlwch, Ynys Môn.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Stoke, ond bu farw yn yr ysbyty o ganlyniad i'w anafiadau.
Bydd yr heddlu yn cynnig cymorth i'r crwner yn eu hymchwiliadau i farwolaeth y dyn.