'Covid-19 heb ddiflannu' medd prif feddyg Cymru
Dydy Covid-19 "heb ddiflannu" yn ôl prif feddyg Cymru.
Yn ôl Syr Frank Atherton, mae'r cynnydd mewn achosion yn y gymuned yn rhoi "straen sylweddol" ar y system iechyd a gofal.
Mae'r data diweddaraf yn dangos fod lledaeniad y ffliw, Covid-19 a feirysau anadlol eraill wedi cynyddu dros gyfnod y Nadolig.
Roedd ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol a gafodd eu cyhoeddi ddydd Gwener yn dangos fod cyfraddau Covid-19 wedi cynyddu o 1.89% i 5.7% yng Nghymru.
Ychwanegodd Syr Frank, sef Prif Swyddog Meddygol Cymru: "Dydyn ni ddim yn gwbl imiwn i'r naill feirws na'r llall ac mae'n rhaid inni gynnal ein camau amddiffyn er mwyn parhau i ddiogelu Cymru a lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.
"Rwy'n annog unrhyw un sydd â symptomau annwyd, ffliw neu COVID i geisio aros gartref a pheidio ymweld â lleoliadau iechyd a gofal, ac i ddal i olchi eu dwylo’n aml. Os oes gennych symptomau ac os oes rhaid ichi fynd allan, gwisgwch orchudd wyneb.
"Os ydych chi’n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu COVID neu frechlyn ffliw ac nad ydych chi wedi cael eich pigiad eto, manteisiwch ar y cynnig er mwyn diogelu eich hun, eich anwyliaid a'n cymunedau.
"Yn yr un modd, os oes gennych chi blant sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw drwy chwistrelliad trwyn, mae'n bwysig iawn eu bod yn ei gael er mwyn diogelu eu hunain a chyfyngu ar ledaeniad y feirws. Edrychwch ar wefan eich bwrdd iechyd i gael rhagor o wybodaeth."
Llun: PA