Grŵp masnach yn annog cwsmeriaid i fargeinio dros brisiau band-eang
Fe ddylai aelwydydd fargeinio gyda'u cwmnïau ac ystyried symud cyn bod prisiau pecynnau teledu, band-eang a symudol yn codi.
Mae grŵp masnach Which? wedi cynnal arolwg gan holi os oedd pobl a welodd eu cytundebau'n dod i ben yn y 12 mis diwethaf wedi bargeinio a newid cwmni.
Roedd yn dangos fod cwsmeriaid teledu a band-eang wedi arbed £162 ar gyfartaledd drwy newid.
Roedd cwsmeriaid nad oedd yn newid ond yn cymryd amser i fargeinio gyda'u darparwr band-eang a theledu yn arbed £90 y flwyddyn ar gyfartaledd.
Roedd arbedion hefyd i gwsmeriaid band-eang yn unig a newidiodd gwmni, gydag arbediad o £92 ar gyfartaledd.
Llwyddodd cwsmeriaid band-eang i arbed £43 ar gyfartaledd am fargeinio.
Roedd yr holiadur yn dangos fod un rhan o bump (21%) o gwsmeriaid band-eang a thua un ymhob chwech (16%) o gwsmeriaid teledu a band-eang heb wneud unrhyw beth pan ddaeth eu cytundeb i ben.
Roedd cwsmeriaid symudol hyd yn oed yn llai tebygol i wneud unrhyw beth gyda bron i chwarter (24%) o'r rhai a gafodd eu holi yn dweud nad oedden nhw wedi ceisio newid neu fargeinio.
Fe lansiodd Which? ymgyrch yn ddiweddar annog busnesau mewn sectorau megis archfarchnadoedd ac ynni i wneud mwy i helpu eu cwsmeriaid drwy'r argyfwng costau byw.