‘Penderfyniadau anodd’ yng Ngwynedd yn sgil y bwlch ariannol ‘gwaethaf erioed’
Mae cynghorwyr yng Ngwynedd yn wynebu “penderfyniadau anodd” yn sgil bwlch ariannol o £12m yn y sir.
Dyna’r diffyg ariannol mwyaf y mae cyngor y sir wedi ei wynebu, yn ôl arweinydd y cyngor, ac mae gwasanaethau angenrheidiol yn y fantol a chynyddu treth y cyngor yn debygol.
Fe fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud wrth osod y gyllideb ym mis Mawrth.
Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, ei fod wedi rhagweld y byddai pethau yn “llwm”.
“Mewn gwirionedd dyma’r setliad ariannol gwaethaf mewn arian go iawn ydan ni erioed wedi ei dderbyn," meddai.
“Mae cost darparu gwasanaethau Gwynedd wedi cynyddu 11% ers yr hydref, sef tua £22m.
“Ar yr un pryd mae’r galw am wasanaethau wedi cynyddu yn gyflym o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.
“Rydan ni wedi wynebu heriau ariannol yn y gorffennol ond dyma’r sefyllfa fwyaf dramatig ydan ni erioed wedi ei wynebu.”
Serch hynny ychwanegodd ei fod yn “benderfynol o ddiogelu ein gwasanaethau pwysicaf a’n trigolion mwyaf bregus".
‘Dim dewis’
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Mae Cyngor Gwynedd mewn lle anodd am ein bod yn wynebu gosod cyllideb gytbwys ar yr un pryd a darparu gwasanaethau ar gyfer y mwyaf bregus.
“Ym mis Rhagfyr cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd ein cyllideb yn cynyddu 7% yn 2023-24.
“Mae hynny’n is na’r cyfartaledd ar draws cynghorau Cymru, sef 7.9%, ac nid yw’n cymharu â chwyddiant na chwaith y galw ychwanegol am wasanaethau yn ystod yr un cyfnod.
“Rydyn ni felly yn wynebu bwlch ariannol £12m, y gwaethaf erioed o fewn un blwyddyn ariannol.
“Does gyda ni ddim dewis ond dod o hyd i gytbwysedd cyfrifol rhwng toriadau a chynnydd yn y Dreth Cyngor ac mae yna benderfyniadau anodd iawn i’w gwneud.”