Prifathro 'ysbrydoliedig' o Landudno wedi marw'n sydyn ar wyliau sgïo
Mae prifathro o Landudno wedi marw tra ar wyliau sgïo gyda'i deulu.
Credir bod Jonathan Morgan, prifathro ysgol arbennig Ysgol y Gogarth, wedi marw'n sydyn.
Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Conwy wedi rhoi teyrnged iddo, gan ddweud fod ei waith dros yr ysgol yn allweddol.
“Rydym wedi ein tristau gan y newyddion am farwolaeth Mr. Jonathan Morgan,” meddai llefarydd ar ran y cyngor.
“Jonathan oedd prifathro Ysgol y Gogarth yn Llandudno. Roedd yn cael ei barchu a'i hoffi gan gydweithwyr, disgyblion, ac eraill y daeth i gysylltiad â nhw trwy ei waith.
“Roedd ei angerdd a’i weledigaeth yn allweddol yn ystod y gwaith o ailddatblygu ac adeiladu adeilad newydd Ysgol y Gogarth, a agorodd yn 2014, ac roedd yn falch iawn o’r ysgol a’i disgyblion.”
Ysbrydoliedig
Ychwanegodd Dr. Lowri Brown, Pennaeth Gwasanaethau Addysg Conwy: “Roedd Jonathan yn arweinydd ysbrydoledig a oedd yn pryderu'n fawr am blant a phobl ifanc.
“Roedd ei arbenigedd, ei wybodaeth, a’i agwedd at gynhwysiant yn cael eu gwerthfawrogi’n aruthrol gan bawb a weithiodd gydag ef, ac roedd yn rhan fawr iawn o’n tîm arweinyddiaeth estynedig.
"Rydym yn ymestyn ein cydymdeilad i'w wraig a'i deulu."