
Lluniau: Gwaith allanol gwesty'r Vulcan yn Sain Ffagan bron a'i gwblhau
Bydd y gwaith adeiladu ar Westy’r Vulcan yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, yn cael ei gwblhau eleni.
Dywedodd Amgueddfa Cymru fod y gwaith allanol bron a gorffen a'r gwaith mewnol ar fin dechrau.
"Mae’r sgaffaldiau newydd gael eu tynnu i lawr o’r to, a bydd gwaith yn dechrau tu mewn i’r adeilad cyn bo hir," medden nhw.
Dechreuodd tîm adeiladau hanesyddol yr Amgueddfa ailadeiladu’r dafarn Fictoraidd eiconig o Gaerdydd yn 2020.
Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn a bydd drysau’r dafarn yn agor i’r i’r cyhoedd yn 2024.


Ym 1853 codwyd y darfarn y ar Adam Street yng Nghaerdydd i wasanaethu cymuned New Town, cymuned Wyddelig yn bennaf.
Roedd y dafarn yn dyst i newid mawr dros y blynyddoedd wrth i Gaerdydd dyfu yn ganolfan ddiwydiannol a phrifddinas y genedl, cyn cau ei drysau am y tro olaf yn 2012.
Cafodd yr adeilad enwog ei ddymchwel fesul bricsen gan dîm adeiladau hanesyddol Amgueddfa Cymru a'i symud i Sain Ffagan yn 2012.
Bydd y Vulcan wedi'i haddurno fel y byddai ym 1915.
Yn ôl yr Amgueddfa, mae ystyriaeth ar sut fydd Gwesty'r Vulcan yn cael ei rhedeg ac maent yn gobeithio gallu gwerthu cwrw yn y dafarn yn y dyfodol.


