Menyw wedi marw ac un arall ar goll mewn afon ym Mhowys
Mae menyw wedi marw ac un arall ar goll mewn afon ger rhaeadr Ystradfellte ym Mhowys.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau fod corff menyw wedi cael ei dynnu o'r afon.
Y gred yw fod menyw arall hefyd wedi mynd i’r dŵr ac mae’r heddlu yn parhau i chwilio.
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Rhaeadr Ystradfellte am 11:45 ddydd Mercher.
Roedd y Gwasanaeth Tân, tîm achub mynydd, a hofrennydd yr heddlu yn cynorthwyo gyda’r chwilio.
Ddydd Mercher cafodd y chwilio ei ohirio dros nos oherwydd bod lefel a chyflymder y dŵr yn achosi trafferthion.
Fe wnaeth y chwilio ail-ddechrau fore Iau.
Mae teuluoedd y ddwy fenyw yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol wrth i'r chwilio barhau.