'Disgwyl cwblhau'r gwaith ar Bont y Borth o fewn pedair wythnos'
Mae disgwyl i'r gwaith atgyweirio ar Bont y Borth gael ei chwblhau o fewn pedair wythnos, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae'r bont wedi bod ar gau ers mis Hydref ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol yn sgil argymhellion diogelwch gan beiriannwyr.
Mewn diweddariad ddydd Iau, dywedodd y llywodraeth y bydd y gwaith i ailagor y bont yn dechrau heddiw, gyda'r gobaith o'i gwblhau "o fewn 4 wythnos, ar yr amod bod y tywydd yn ffafriol."
Bydd y rhaglen waith yn ailddechrau ddydd Iau drwy ganolbwyntio ar ochr orllewinol y bont cyn symud ymlaen i gwblhau'r gwaith ar yr ochr ddwyreiniol.
Mae gwaith cynnal a chadw, gan gynnwys rhoi wyneb newydd ar y ffordd, eisoes wedi ei gwblhau, ac mae pecynnau cymorth ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, UK Highways A55 Ltd, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn i geisio lleihau'r effaith o gau'r bont ar fusnesau lleol yn parhau ar gael.
Mae llefydd parcio am ddim yn parhau i fod ar gael ym Mhorthaethwy yn ogystal ag arosfannau ychwanegol sydd yn agosach at y bont ar gyfer gwasanaethau bws.
'Problem digynsail'
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy'n gyfrifol am Drafnidiaeth, Lee Waters, ei bod yn "falch ein bod ni, ar y cyd â'n partneriaid, wedi gallu bwrw ymlaen yn gyflym gyda'r gwaith hynod bwysig a chymhleth hwn ar Bont Menai."
Ychwanegodd llefarydd ar ran UK Highways A55 Ltd eu bod yn "gwerthfawrogi amynedd pawb wrth inni fynd ati i ddatblygu ateb brys er mwyn datrys y broblem ddigynsail hon.
"Daeth nifer o heriau peirianegol cymhleth i’n rhan wrth inni fynd ati i geisio dod o hyd i ateb i'r broblem unigryw hon. Fe wnaethom weithio'n hynod o agos gyda HIghways UK, Llywodraeth Cymru, a thîm ehangach peirianwyr y prosiect er mwyn deall y problemau a'r cyfyngiadau’n llawn, ac er mwyn inni fedru datblygu ateb sy'n ddiogel ac yn gadarn i ddefnyddwyr y bont, ac i'r strwythur ei hun, gan wneud hynny cyn gynted â phosibl."