Cystadleuaeth am ddyfodol Maes Awyr Abertawe
Mae cystadleuaeth am ddyfodol Maes Awyr Abertawe, wedi i ddau grŵp ddatgan eu bwriad i fod yn berchen arno.
Ar hyn o bryd, Cyngor Abertawe sydd yn berchen ar y maes awyr, ac mae'n cael ei redeg gan gwmni o'r enw Swansea Airport Ltd, sydd yn awyddus i adnewyddu ei les.
Ond mae dau grŵp arall wedi datgan eu bwriad i fod yn berchen ar y maes awyr.
Mae Swansea Airport Ltd yn dweud eu bod wedi rhoi cymhorthdal i'r maes awyr a bod gwelliannau sylweddol wedi eu gwneud yn sgil newidiadau rheoli.
Ond y gred yw fod grŵp arall o unigolion wedi dechrau ar her gyfreithiol er mwyn ceisio atal y cyngor rhag rhoi les newydd i Swansea Airport Ltd.
'Gwerthfawr'
Cafodd grŵp o'r enw Pwyllgor Rhanddeiliaid Maes Awyr Abertawe ei sefydlu yn 2021 er mwyn cynrychioli defnyddwyr y maes awyr.
Mae'r grŵp wedi mynegi pryderon fod y caffi yno wedi cau yn ogystal â'r ffaith fod y maes awyr bellach ar agor bum niwrnod yr wythnos, yn hytrach na saith.
Mewn datganiad, dywedodd y grŵp eu bod "eisiau'r cyfle i gael trafodaethau arwyddocaol gyda'r cyngor am ei weledigaeth i'r dyfodol ac i gydweithio er mwyn cyflawni hyn".
"Mae Maes Awyr Abertawe yn rywbeth gwerthfawr iawn i Abertawe."
Mae'r maes awyr yn dyddio yn ôl i'r Ail Ryfel Byd, ac mae wedi cael ei ddefnyddio gan awyrennau preifat, ysgolion hedfan yn ogystal â'r Ambiwlans Awyr.
Cafodd ei drwydded ei hatal yn 2019 yn sgil arolygiad gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) a wnaeth nodi pryderon diogelwch.
Mae'r cyngor wedi dweud na fyddant yn gwneud sylw tra bod materion cyfreithiol yn parhau.