'Boi caredig iawn': Teyrngedau i Aled Glynne Davies
'Boi caredig iawn': Teyrngedau i Aled Glynne Davies
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn-olygydd BBC Radio Cymru, Aled Glynne Davies, ar ôl i gorff gael ei ddarganfod fel rhan o ymchwiliad i'w ddiflaniad.
Roedd wedi bod ar goll ers Nos Galan ac roedd yr heddlu a grwpiau o wirfoddolwyr wedi bod yn chwilio amdano ers hynny.
Cadarnhaodd Heddlu De Cymru eu bod wedi darganfod corff ym Mae Caerdydd ac er nad oedd wedi ei adnabod yn ffurfiol, maen nhw'n meddwl mai corff Aled yw.
Dywedodd y cyflwynydd a'r newyddiadurwr BBC, Huw Edwards: “Mae’r newyddion yn ofnadwy ac yn drasiedi i’r teulu wrth gwrs yn enwedig, ei gyfeillion ac ei gydweithwyr.
"Roedd Aled yn foi caredig iawn, roedd yn foi hael iawn ac mae ‘i golli fe yn beth ofnadw’ a’i golli fe dan amgylchiadau fel hyn hyd yn oed yn waith a’r unig beth sydd gen i i’w ddweud yw mod i’n cydymdeimlo’n fawr gyda Afryl a’r teulu yn eu colled."
Ychwanegodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Mae ‘na bobol sydd yn bodoli ar y ddaear yma i fynd o ddydd i ddydd ac i ‘neud eu gorau glas a wedyn ma’ ‘na bobol sydd ishe gwneud gwahaniaeth.
"Roedd Aled Glynne ishe gwneud gwahaniaeth, ynglŷn â’r iaith Gymraeg hefyd o’dd e’n angerddol wrth sicrhau mai iaith Gymraeg syml oedd yn cael ei chlywed ar Radio Cymru er enghraifft, o’dd e am ystwytho’r Gymraeg o’dd ar Radio Cymru fel bod hi ddim yn rhyw iaith sych, academaidd, bod hi’n iaith y stryd, iaith y gymuned, iaith fydde pobol yn ei deall ac mi fydd hynny wrth gwrs yn rhan o’i waddol e hyd heddiw."
Roedd Eifion Jones, neu Jonsi, yn un o'r cyflwynwyr a ymunodd â BBC Radio Cymru yn ystod cyfnod Aled Glynne fel golygydd ar yr orsaf.
“’Swn i’n ddeud yr unig berson yng Nghymru fysa wedi rhoi cyfle i Eifion Jones fel Jonsi achos mi oedd y cymeriad yn rhywbeth hollol wahanol a mi fydda i yn falch iawn iddo fo am weddill fy oes ynde.
"A mi fydd Aled yn golled fawr i’w deulu wrth gwrs, ond i’r genedl hefyd ac i ddarlledu."
Fe gafodd cyn-gyflwynydd BBC Radio Cymru, Geraint Lloyd, "lot o hwyl" gydag Aled ar hyd y blynyddoedd.
"Fe ddaeth e â gwrandawyr newydd i Radio Cymru, daeth e â cyflwynwyr newydd, cyflwynwyr o’dd, fel fi, ddim yn gyfarwydd gyda ffordd y BBC, ond o’dd Aled ‘na’n gefn bob tro," meddai.
"O’dd e’n ffonio falle ar ôl y rhaglen i weud ‘Ew, nes i fwynhau hwnna’. O’dd e hefyd yn ffonio i weud os o’dd rhwbeth yn mynd o’i le felly o’dd e’n cadw pawb ar flaen eu traed.
"Ond cael cyfleon gwych ac o’dd e ddim yn ofan mentro fel golygydd. O’dd e ddim yn ofan mentro fel golygydd, o’dd e’n fodlon dechre pethe newydd ac fe newidiwyd Radio Cymru yn ei gyfnod e yn aruthrol er gwell."
Dywedodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llinos Griffin-Williams, y bydd ei "angerdd yn gwasanaethu Cymru yn ddiflino drwy ei waith yn BBC Radio Cymru, Newyddion S4C a gyda Goriad yn cael ei werthfawrogi. Ac mi fydd ei dalent arbennig o gynnig cyngor a chefnogaeth i’w gydweithwyr, ffrindiau a chyfranwyr yn cael ei gofio gyda chynhesrwydd. "
Yn ôl Dafydd Meredydd, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, bydd yn cofio Aled fel "dyn annwyl".
“Be’ fydda i’n ei gofio am Aled ydy y tynnwr coes, y dyn annwyl, ac oherwydd bod o yn cyfleu ei syniadau efo gwen ar ei wyneb," meddai.
"Pa bynnag mor heriol a chyffrous a chwyldroadol oedd y syniadau, mi oeddech chi’n derbyn y syniadau oherwydd anwyldeb y dyn ac mi fydd ei gydweithwyr o a’i gyfeillion o yn Radio Cymru yn teimlo’r glec yn fawr iawn heddiw ‘ma."
Dywedodd Ynyr Williams, ffrind i Aled, ei fod bob amser yn "llawn hwyl".
“Y dyn allblyg, gwahanol iawn ‘ma ar adega’, licio gwisgo’n wahanol ac yn dod i mewn i gyfarfodydd ac i gymdeithas o bobl yn llawn hwyl," meddai.