Gwerthiant ceir newydd wedi disgyn i'r lefel isaf ers tri degawd
Gwerthiant ceir newydd wedi disgyn i'r lefel isaf ers tri degawd
Mae gwerthiant ceir newydd wedi disgyn i'r lefel isaf ers 30 mlynedd.
Prinder cyflenwad sy’n cael y bai am fod cofrestriadau ceir newydd wedi gostwng i’r lefel isaf ers 1992.
Cofrestrwyd tua 1.61 miliwn o geir newydd yn 2022, yn ôl data a gafodd ei ryddhau gan Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr a Masnachwyr Moduron (SMMT).
Mae hynny i lawr 2% o'i gymharu â'r 1.65 miliwn a gafodd eu cofrestru yn ystod y 12 mis blaenorol.
Dywedodd yr SMMT fod y dirywiad yn sgil y ffaith fod gweithgynhyrchwyr yn methu â bodloni'r galw am geir newydd oherwydd diffyg deunyddiau.
'Aros yr un fath'
Yn ôl Gari Wyn, perchennog Ceir Cymru, ym Methel ger Caernarfon mae’r sefyllfa yn debygol o aros yr un fath.
"Mwyaf sydyn mae gwerthiant ceir blynyddol wedi dod lawr dros y ddwy, dair blynedd 'ma, leni ma' nhw lawr i 1.6 miliwn sy’n golygu bod o 25% i lawr o be' oedd yn arfer cael ei gynhyrchu," meddai.
Ychwanegodd Gari, sydd â blynyddoedd o brofiad o werthu ceir bod dau reswm dros hyn.
“Y gwir amdani ma’ hynny oherwydd dau beth yn gyffredinol, y wiring loom sydd ddim yn dod o de ddwyrain Asia a hefyd y semiconductors, sef y partiau hynny sy’n gyfrifol am ffurfio bocsys trydanol sydd mewn ceir.
“Mae’r sefyllfa yma yn debygol o aros am flwyddyn arall, mae 'na rhai yn rhagweld y bydd 10% o gynnydd mewn cynnyrch ceir ond mae’r sefyllfa yn debygol i aros yr un fath am sbel hir eto.”
Mae’r DU wedi adennill ei safle fel ail farchnad geir newydd fwyaf Ewrop y tu ôl i’r Almaen.
'Blwyddyn anodd iawn'
Dywedodd Mike Hawes, prif weithredwr yr SMMT, fod 2022 yn “flwyddyn anodd iawn” ond mae arwyddion fod problemau cyflenwad yn “dechrau lleddfu”.
Ychwanegodd: “Mae’r farchnad fodurol yn parhau i fod ar chwâl o’i pherfformiad cyn y pandemig ond fe allai fynd yn groes i dueddiadau economaidd ehangach drwy sicrhau twf sylweddol yn 2023.
“Er mwyn sicrhau’r twf hwnnw, rhaid i’r llywodraeth helpu pob gyrrwr i fynd yn drydanol a gorfodi eraill i fuddsoddi’n gyflymach mewn seilwaith gwefru ledled y wlad.”
Dywedodd Mr Hawes fod angen “cyflymu buddsoddiad sylweddol” mewn gwefru ceir trydan.
Roedd y Nissan Qashqai ar frig safle cofrestriadau ceir newydd cyffredinol yn 2022 yn ogystal â Vauxhall Corsa, Tesla Model Y, Ford Puma a Mini.