Newyddion S4C

Beirniadu Mark Drakeford wedi i Lywodraeth Qatar dalu am westy gweinidogion Cymru

Mark Drakeford yn Qatar

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cael ei feirniadu ar ôl i Lywodraeth Qatar dalu am westy iddo ef a phump o weinidogion eraill Llywodraeth Cymru yn ystod Cwpan y Byd 2022.

Yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth (FOI) gan BBC Cymru, daeth i'r amlwg fod Llywodraeth Qatar wedi talu i Mr Drakeford, y Gweinidog Economi Vaughan Gething a phedwar o weinidogion i aros mewn gwesty pum seren am dair noson, gan dalu am lety, bwyd a thrafnidiaeth.

Arhosodd Mr Drakeford, Mr Gething a phedwar o weinidogion yng ngwesty pum seren y Ritz-Carlton yn Doha.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn feirniadol iawn o record hawliau dynor Qatar cyn y gystadleuaeth, ond dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi penderfynu mynd i "hybu Cymru a'n gwerthoedd ar y llwyfan rhyngwladol."

'Tanseilio'

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, fod Mr Drakeford wedi "tanseilio o bosib ymrwymiad Llywodraeth Cymru tuag at hawliau dynol, hawliau LGBTQ+ a hawliau merched drwy dderbyn y rhodd yma gan Lywodraeth Qatar."

Mae hi wedi awgrymu y dylai'r llywodraeth gyfrannu'r un faint o arian tuag at elusennau hawliau dynol. 

Ychwanegodd llefarydd chwaraeon a materion rhyngwladol Plaid Cymru, Heledd Fychan, y dylai Mr Drakeford a Mr Gething fod yn atebol i'r Senedd ac egluro mewn manylder sut y gwnaethant godi materion yn ymwneud â hawliau dynol yn Qatar. 

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "wyth o swyddogion a dau o weinidogion wedi teithio i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd". 

"Cafodd llety ar gyfer y ddau weinidog a phedwar o'r swyddogion ei ddarparu gan Lywodraeth Qatar am ddim.

"Cafodd pecyn lletygarwch ei gynnig gan Lywodraeth Qatar i bob gwlad a oedd yn y gystadleuaeth, ond nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw wybodaeth am werth y pecyn yma."

Llun: Mark Drakeford yn Qatar gan Bronwen Weatherby / PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.