Ymgyrch i achub tŷ yn Lloegr gan bensaer Portmeirion
Mae ymgyrchwyr yn Lloegr yn gobeithio y bydd modd atal tŷ gan bensaer Portmeirion rhag cael ei chwalu.
Cafodd y bwthyn ‘bohemaidd’ prin yn Rhydychen ei gynllunio gan y pensaer Clough Williams-Ellis yn yr 1920au.
Dywedodd cymdeithas C20 – sy’n ymgyrchu o blaid diogelu adeiladau o’r 20fed ganrif – eu bod nhw’n ymdrechu i sicrhau nad yw’r adeilad yn cael ei ddymchwel.
Ond mae Lloegr Hanesyddol sef y corff cyhoeddus sy’n gofalu am amgylchedd hanesyddol Lloegr wedi gwrthod eu cais am statws adeilad rhestredig yn y gorffennol.
Mae’r bwthyn yn dyddio o’r un cyfnod a dechrau’r gwaith ar bentref Eidalaidd Portmeirion yng Ngwynedd yn 1925.
Mae Clough Williams-Ellis fwyaf enwog am ei adeiladau yng Nghymru ond roedd hefyd yn un o aelodau cyntaf yr Ymgyrch i Ddiogelu Lloegr Wledig ym 1926.
‘Teilwng’
Mae’r Athro Elizabeth McKellar, Llywydd Cymdeithas Haneswyr Pensaernïol Prydain Fawr, ymysg y rheini sy’n rhan o’r ymgyrch i achub yr adeilad.
“Roedd Williams-Ellis yn enwog am ddylunio ym mron pob arddull ac mae 34 Davenant Road yn enghraifft dda o’r bwthyn bohemaidd plaen, modern; yn gartref teilwng i’w berchnogion anghonfensiynol,” meddai.
“Mae bellach yn oroeswr cynyddol brin o’r tai canolig eu maint a oedd ar un adeg yn gyffredin, ond wedi’u dylunio gan benseiri unigol, ar hyd strydoedd allanol gogledd Rhydychen."
Mae'r ymgyrchwyr yn dadlau fod gan y tŷ ei hun hanes diddorol wedi iddo gael ei gomisiynu yn wreiddiol gan y ffeminydd o Ganada Lily Dougall a’i phartner Sophia Earp.
Wedi hynny bu'r tŷ yn eiddo am amser hir i Anthony Kirk-Greene, a oedd yn enwog am ei astudiaethau ar ddiwylliant Affrica.
Bu C20 hefyd yn rhan o ymgyrch er mwyn ceisio achub adeilad Art Deco yn Llandrillo-yn-Rhos y llynedd ond pleidleisiodd Cyngor Conwy o blaid ei ddymchwel.
Llun: Y bwthyn gan C20 a Clough Williams-Ellis gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.