Y Sikh-Punjabi cyntaf yn dyfarnu yn Uwch Gynghrair Lloegr
04/01/2023
Fe gafodd hanes ei greu yn Uwch Gynghrair Lloegr nos Fercher wrth i Sikh-Punjabi fod yn rhan o'r tîm dyfarnu am y tro cyntaf.
Roedd Bhupinder Singh Gill wedi ei benodi fel y llumanwr cynorthwyol yn y gêm rhwng Southampton a Nottingham Forest nos Fercher.
Mae dyfarnu yn y gwaed i Singh Gill. Ei dad Jarnail Singh oedd y dyn cyntaf gyda thwrban i ddyfarnu yng nghynghreiriau Lloegr ac mae ei frawd Sunny wedi dyfarnu yn y cynghreiriau'r tymor hwn hefyd.
Dywedodd yr athro ymarfer corff mai bod yn rhan o'r tîm dyfarnu oedd y foment fwyaf cyffrous a balch yn ei yrfa.
Llun: Sky Sports