Michael Smith yn ennill Pencampwriaeth Dartiau'r Byd
04/01/2023
Mae Michael Smith wedi ennill Pencampwriaeth Dartiau'r Byd y PDC.
Enillodd Smith y gystadleuaeth nos Fawrth, wedi iddo guro'r ffefryn Michael Van Gerwen 7-4.
Dyma'r tro cyntaf i Smith ennill y gystadleuaeth, wedi iddo golli yn y ffeinal yn 2019 a 2022.
Roedd y ffeinal yn cael ei ystyried fel un o'r gorau erioed, gyda'r ddau chwaraewr yn chwarae dartiau o safon uchel iawn.