GIG Cymru: ‘Gorfod cysgu ar lawr yr ysbyty’

GIG Cymru: ‘Gorfod cysgu ar lawr yr ysbyty’
Mae dyn 63 oed yn dweud iddo orfod cysgu ar lawr Ysbyty Treforys ger Abertawe oherwydd prinder gwelyau.
Fe wnaeth Wayne Erasmus o’r Hendy yn Sir Gaerfyrddin alw am ambiwlans ar ddydd Nadolig wedi iddo gael trafferth anadlu.
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd nad oedd gwely yn yr uned asesu ac arhosiad byr, dim ond cadeiriau plastig, ac iddo fe ac eraill orfod cysgu ar lawr.
"O’dd yr A&E yn gorlawn. Da’th yr air ambulance mewn gyda merch bach ifanc, ac o’dd dim lle, o’dd pobl bobman. O’dd dim cadair sbâr na dim gwely sbâr.
"Nagon nhw’n gwybod os o’n nhw’n dod neu’n mynd, o’dd dim digon o staff, ac o’dd e fel pe bai o’t ti mewn rhyfel. O’dd e’n shambles i gyd.
"Ac wedyn amser aethon ni i AMU, o’dd hwnna’n wael, ’na gyd yw e yw ward ar ben ward ar ben ward sydd ’di cael eu dodi lan dros dro, ac ma’ fe’n “dros dro” nawr am dou flynedd."
Ychwanegodd: "O’dd nyrs ’na nawr, o’dd hi’n gweud o’dd hi ffaelu gweld y tylwyth, ffaelu gweld eu plant, o’n nhw’n gofyn iddi a gofyn iddi i ddod mewn, o’dd hi ’di gweithio saith diwrnod ar y trot a ddim yn cael dim amser.
"Chwarae teg i’r nyrsys a’r doctoriaid, maen nhw’n gweithio’n galed, ac yn drist o galon y’n nhw mewn ffordd, oherwydd mae’r management not fit for purpose."
Fe gafodd Mr Erasmus ei symud i ward arall, lle cafodd ofal a meddygyniaeth, a'i anfon adref ymhen chwe diwrnod.
Mae e erbyn hyn wedi ysgrifennu at y bwrdd iechyd i gwyno am ei brofiad. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cadarnhau eu bod nhw'n ymchwilio i'r gwyn.
Dyw'r sefyllfa ddim yn unigryw i ardal Abertawe.
Yn y gogledd, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi digwyddiad critigol ac wedi canslo pob llawdriniaeth heblaw y rhai mwyaf brys ddydd Mawrth. Dyma'r eildro i'r bwrdd iechyd weithredu yn y fath fodd yn yr wythnosau diwethaf, ac mae'n nhw'n dweud mai galw cynyddol, diffyg gwelyau a phrinder staff sy'n gyfrifol am hynny.
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn dweud bod eu hadrannau brys "o dan bwysau eithafol" gan gynghori pobl i beidio â mynd i'r ysbyty oni bai ei fod yn "gwbl angenrheidiol".
Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn y de orllewin mae eu hysbytai'n "parhau'n brysur dros ben" gyda "galw parhaus am wasanaethau brys".
Ar hyn o bryd mae'r sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn y de ddwyrain ar "lefel coch", y gwaethaf posib, oherwydd galw ar draws ei holl wasanaethau.
Ym Mhowys dyw hi ddim eto'n “sefyllfa argyfyngus" ar draws eu hysbytai cymunedol ond mae nhw'n cefnogi'r system yn ehangach i ymateb i'r sefyllfa sydd ohoni.
Ac yng Nghaerdydd a'r Fro mae nhw'n argymell i bobl "ystyried yn ofalus pa wasanaeth sydd ei angen arnyn nhw".
Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at fyrddau iechyd Cymru yn galw ar arweinwyr i ryddhau cleifion o ysbytai, hyd yn oed os nad oes pecynnau gofal ar gael.
Mewn datganiad, fe ddywedodd y llywodraeth bod y gwasanaeth o dan bwysau digynsail, a bod lefelau uchel o covid-19 a'r ffliw yn gwaethygu'r sefyllfa.