Newyddion S4C

AS Ynys Môn yn datgelu ei bod hi'n gwisgo siaced atal trywanu

virginia crosbie

Mae Aelod Seneddol Ynys Môn wedi datgelu ei bod hi’n gwisgo siaced atal trywanu wrth iddi gwrdd ag etholwyr.

Dywedodd Virginia Crosbie ei bod hi wedi penderfynu gwisgo’r siaced yn dilyn llofruddiaeth Syr David Amess AS.

Cafodd AS Southend West , David Amess ei drywanu i farwolaeth wrth gynnal cymhorthfa yn ei etholaeth ym mis Hydref 2021.

“Rydw i wedi bod mewn sefyllfaoedd anodd,” meddai Virginia Crosbie.

“Mae gen i gymorthfeydd wyneb yn wyneb lle ydw i wedi gwisgo siaced atal trywanu yn dilyn llofruddiaeth David Amess.

“Mae gen i hefyd warchodwyr. Mae’n bwysig fy mod i’n parhau i gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda fy etholwyr.

“Yn anffodus mae hyn yn un o’r pethau y mae’n rhai i mi eu gwneud er mwyn cyflawni’r swydd y cefais fy ethol i’w chyflawni.”

‘Atebolrwydd’

Dim dyma’r tro cyntaf i Virginia Crosbie drafod y bygythiadau y mae hi wedi eu derbyn ers cael ei hethol yn 2019.

Ond dywedodd nad oedd pethau wedi gwella yn y cyfamser.

“Os unrhyw beth mae’n waeth,” meddai. “Ac mae nifer o ASau benywaidd eraill yn dioddef, yn enwedig.

“Hyd yn oed cyn i ni gael ein brecwast mae nifer ohonom ni wedi derbyn bygythiadau.”

Galwodd hefyd am ragor o “atebolrwydd” ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Rwy’n meddwl bod llawer iawn mwy y gallwn ei wneud o ran cyfryngau cymdeithasol a cham-drin,” meddai.

“Mae modd i bobol droi at y cyfryngau cymdeithasol heb gael eu dal i gyfrif.

“Dylai cyfrifon ar Twitter gael eu dilysu ac mae angen dirwyon ar Facebook.

“Mae angen dirwyon ar y cyfryngau cymdeithasol am ganiatáu cynnwys o’r fath.”

Ond fe ychwanegodd Virginia Crosbie y byddai’n parhau i annog menywod i ystyried gyrfa yn y byd gwleidyddol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.