Ymateb ‘amazing’ i ffilm Gymraeg yn trafod trawma cantores
Ymateb ‘amazing’ i ffilm Gymraeg yn trafod trawma cantores
Mae aelod o grwp pop poblogaidd yn dweud bod yr ymateb y cafodd i ffilm Gymraeg wedi bod yn “amazing”.
Cafodd ffilm ‘Hunan Hyder’ ei darlledu y llynedd. Roedd yn trafod taith Marged Siôn wrth iddi ddelio â thrawma a bod yn gaeth i gyffuriau ac alcohol ar ôl bod mewn perthynas dreisgar a chael ei threisio yn 21 oed.
Roedd bod ar y llwyfan gyda'r band Self Esteem wedi rhoi cyfle iddi brosesu rhywfaint o’r trawma.
"Lot o bobl yn cysylltu o’n i ddim yn nabod yn dweud bod e 'di cael effaith arnyn nhw, bod nhw yn nabod rhywun neu fod nhw eu hunain wedi bod yn y fath yna o sefyllfa.
“Ges i neges gan fenyw odd yn gweithio mewn refuge, fatha shelter a dweud bod hi di dangos y ffilm yn y shelter a stwff felna. So nath e gyrraedd lle o’n i moen iddo fe gyrraedd,” meddai’r ferch o Gaerdydd.
Ei gobaith trwy wneud y ffilm oedd dangos i berson arall sydd wedi bod trwy brofiadau tebyg bod modd trafod yn ei mamiaith er nad oes yna lot o iaith o gwmpas pethau fel trawma yn y Gymraeg meddai.
“Odd e yn ddechre sgwrs dwi’n meddwl fydd yn cario ymlaen.”
'Diolchgar'
Roedd 2022 yn flwyddyn “llawn o symud” iddi gyda pherfformiadau ar draws y byd. Ac mae sawl uchafbwynt wedi gan gynnwys enwebiad Mercury, perfformio ar raglen Graham Norton, gig Glanstonbury a chefnogi Adele.
Dyw’r cyfan “ddim rili yn phasio fi i fod yn onest. Fi’n mynd yn rili excited. Fi jest yn ddiolchgar i fod ‘ma i fod yn 'onest,” meddai gan chwerthin.
Mae Marged yn credu bod poblogrwydd y grŵp yn ymwneud a’r ffaith bod eraill yn gallu uniaethu gyda nhw.
“O ran y sioeau byw mae pobl yn edrych ar y llwyfan ac yn gweld pedwar person, fi a dau backing singer arall a so ni 'di cael ein treinio fel dawnswyr a hwnna i gyd. So ma' na rhywbeth sydd yn eithaf accessible fi’n meddwl, lle mae pobl yn teimlo dyw e ddim yn pristine pop.
“Dy ni i gyd yn dalentog yn ein ffyrdd ein hunain. Ond dy’n ni ddim yn industry robots lle ni i gyd yn neud yr un peth a beth bydde falle pobl erill sydd yn cefnogi artistiaid pop erill yn y maes.”
Mae yna hefyd berthynas agos rhwng yr aelodau i gyd, a hynny meddai mewn diwydiant lle mae merched yn gallu cael eu gosod yn erbyn ei gilydd.
Ar y llwyfan mae gwisgoedd y merched yn amrywio o siwtiau i dops bach a siorts seiclo.
Dillad ar y llwyfan
“Ni di cael ryw sylwade os ni ddim yn gwisgo rhywbeth sydd yn ddigon minimum neu minimal. So you’re damned if you do, you’re damned if you don’t really. A fi’n meddwl gyda stwff felna, mae e i neud gyda sut ni’n teimlo ar y llwyfan, sut fi’n teimlo.”
Fe fydd yna drafodaeth yn aml os yw un ohonynt ar ei misglwyf ynglŷn â’r hyn y byddan nhw yn gwisgo.
“Ma na lot o siarad am hwnna a hefyd bod yn eitha radical, ‘Ie fi’n bloated ond mae pobl yn y stafell yma yn mynd i helpu fi i gredu neu i gofio bo fi yn brydferth, hyd yn oed os fi’n bloated neu yn sluggish'.”
Mae Marged yn trïo bod yn garedig tuag at ei chorff ac mae’n dechrau therapi i weithio ar hyn.
“Fi di cael lot o stwff o gwmpas fy ngwyneb i, yn stryglo gyda beth fi’n edrych yn fy ngwyneb ac yn cael adegau lle fi’n disassociatio o ran, ‘Sai’n edrych felna, that’s not me.’ Ond fi’n gorfod gweithio ar hwnna bob dydd i ddod at le lle dwi’n derbyn dyna pwy ydw i.”
Eleni fe fydd y gantores yn gwneud gwaith llais gyda grŵp o fenywod sydd wedi goroesi trais domestig, rhywbeth sydd yn agos at ei chalon fel rhywun sydd wedi bod trwy’r profiad ei hun.
Cerddoriaeth ei hun
“Lot o waith o gwmpas anadl, anxiety, lot o orwedd ar y llawr ac anadlu sydd yn rhywbeth fi’n meddwl dyw y menywod ddim wedi cael amser i neud.”
Yn ogystal mi fydd hi’n gweithio ar brosiectau gyda Theatr Genedlaethol Cymru a’r nod hefyd yw rhyddhau ychydig o gerddoriaeth fel artist unigol.
“Mae gyda fi ryw 60,70 cân. So fi rili angen mynd mewn i’r stiwdio a cael nhw lawr a dewis lle fi isie mynd gyda fe.”
Mis Medi yw’r gobaith, “ond fi di bod yn dweud hwn ers rhyw ddwy flynedd. So gawn ni weld!”.