Rhagor o oedi i gynlluniau ffordd osgoi Llandeilo

Rhagor o oedi i gynlluniau ffordd osgoi Llandeilo
Fe fydd yna oedi pellach cyn y bydd Llywodraeth Cymru yn cadarnhau cynlluniau ar gyfer ffordd osgoi yn nhref Llandeilo, Sir Gaerfyrddin.
Yn ôl y Cynghorydd Annibynnol Edward Thomas, sy’n cynrychioli Llandeilo a Dyffryn Cennen, mae trigolion lleol a busnesau wedi bod yn galw am weithredu ers degawdau.
Mae lorïau mawrion i’w gweld a’u clywed yn gyson yng nghanol tref Llandeilo.
Y farn gyffredinol yw bod cysondeb y traffig yn broblem, gyda phryder am ddiogelwch plant ar ffordd sydd mor brysur.
Mae Adam Price, yr aelod lleol yn Senedd Cymru wedi disgrifio’r sefyllfa fel un hollol annerbyniol. Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y bydd yna gyhoeddiad yn y gwanwyn.
Opsiynau gwahanol
Dros gyfnod y Nadolig, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfarfodydd pellach ynglŷn â’u cynlluniau, heb gyhoeddi pa opsiwn sy’n cael ei ffafrio.
Mae tri allan o bedwar cynllun posib yn cynnwys adeiladu ffordd osgoi fyddai’n cymryd traffig i’r dwyrain o’r dref, gan ddilyn llwybr yr hen reilffordd cyn ymuno â’r A40 i’r gogledd o Landeilo. Mae yna gynllun arall hefyd, ond mae’r Cynghorydd Edward Thomas yn erbyn hwnnw.
“Mae pedwar opsiwn, ac yn yr ymgynghoriad, roedd un yn cynnwys dim bypass, a rhoi goleuadau traffig yng nghanol y dref a siarad am ddargyfeirio traffig. Dyw hynny ddim yn mynd i weithio.”
Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi cwrdd â swyddogion o Gyngor Sir Caerfyrddin wythnos cyn y Nadolig i drafod sawl opsiwn er mwyn mynd i’r afael â phryderon ynglŷn â’r traffig. Y disgwyl nawr, yn ôl y datganiad “… yw y bydd yna gyhoeddiad pellach yn y gwanwyn.”
'Llygredd i'r ardal'
Mae’r holl aros erbyn hyn wedi troi’n rhwystredigaeth lwyr i fusnesau. Mae Fflur Davies sy’n gweithio yn Siop Igam Ogam, yn poeni am yr effaith ar yr amgylchedd.
“Y prif bwynt yw i gael llai o lorïau yn dod trwy’r dref. Mae nhw’n dod â llygredd i’r ardal sy’n cael effaith ar yr amgylchedd. Hwnna yw’r peth mwyaf, a diogelwch pobl y dref hefyd sy’n cerdded ar hyd y stryd fawr yma ac ymweld â’r siopau lleol. Ni’n gweld effaith yr holl draffig.”
Chwe blynedd yn ôl, fel rhan o gytundeb gyda Phlaid Cymru, cytunodd Gweinidogion Llafur y byddai ffordd osgoi yn cael ei chodi. Ers hynny, mae’r cynlluniau wedi cael eu gohirio droeon.
Er bod yna bedwar cynllun yn cael eu hystyried o hyd, mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price yn dal i bwyso am amserlen.
“Mae’r oedi parhaus ry’ ni’n gweld i’r prosiect yma yn hollol annerbyniol. Mae clywed bod yna fwy o oedi erbyn hyn ar ôl addewid i gyhoeddi pa un o’r opsiynau mae nhw’n ffafrio unwaith eto yn mynd i greu mwy o rwystredigaeth.”
Mae Plaid Cymru wedi arwyddo cytundeb cydweithredu gyda Llywodraeth Cymru, ac am bwyso nawr, meddai Mr Price i sicrhau y bydd y cynlluniau yma ar ôl hir aros yn cael eu gweithredu.
“Nawr, mae’n rhaid iddyn nhw ddelifro ar yr addewid maen nhw wedi ei wneud. Mae’r Prif Weinidog ei hun yn dweud ei fod e yn bersonol a’r Llywodraeth yn cadw at eu gair ac mae’n rhaid i ni sicrhau eu bod nhw’n gwneud hynny.”