Newyddion S4C

Ymwelwyr o China ddim angen hunan ynysu wrth gyrraedd y DU

03/01/2023
Profi Covid-19

Ni fydd angen i ymwelwyr o China hunan ynysu wrth gyrraedd y DU, yn ôl aelod o gabinet y llywodraeth. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Mark Harper, fod y profion i bobl sydd yn cyrraedd o China yn cael eu gwneud er mwyn "casglu gwybodaeth" gan fod llywodraeth Beijing yn gwrthod rhannu eu gwybodaeth. 

Bydd profion yn wirfoddol ar gyfer pobl sydd yn glanio ym maes awyr Heathrow. Dyma yr unig faes awyr yn y DU sydd yn cynnig hediadau uniongyrchol o China.

Er hyn, bydd yn rhaid i ymwelwyr sydd yn teithio o China i'r DU gymryd prawf Covid-19 cyn cael mynediad i'r wlad. 

Nid oes yna hediadau uniongyrchol o China i Gymru, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon, ond mae gweinidogion wedi dweud eu bod yn gweithio gyda'r llywodraethau datganoledig er mwyn rhoi'r mesurau ar waith ledled y DU. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.