Cymorth ychwanegol gyda chostau byw i deuluoedd ar incwm isel
Bydd miliynau o aelwydydd ar incwm isel yn derbyn taliad yn y gwanwyn i gynorthwyo gyda chostau byw, yn ôl Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth San Steffan.
Mae'r adran wedi cyhoeddi rhagor o fanylion am y taliadau, ar ôl datgelu'r bwriad yng nghyllideb yr hydref.
Bydd y cymorth newydd sy'n werth £900 yn cael ei ddosbarthu i wyth miliwn o bobl sydd yn hawlio budd-daliadau, yn cynnwys y Credyd Cynhwysol, Credydau Pensiwn a chredydau treth.
Bydd y cynllun yn dechrau yn y gwanwyn ac yn cael ei dalu'n uniongyrchol i gyfrifon banc, fesul tri thaliad, yn ôl Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU.
Bydd taliad arall o £150 yn cael ei drosglwyddo i dros chwe miliwn o bobl sydd ag anableddau, a £300 ar gyfer wyth miliwn o bensiynwyr. Bydd hynny'n ychwanegol at y taliadau tywydd oer.
Ond mae ymgyrchwyr yn erbyn tlodi tanwydd yn dadlau nad yw'r cymorth ar gyfer y mwyaf bregus wedi cynyddu o gymharu â'r llynedd.
Dywedodd Simon Francis, cydlynydd End Fuel Poverty Coalition, “ Y gaeaf hwn, rydym wedi gweld dros naw miliwn o oedolion yn byw mewn tai yn llawn tamprwydd.
“Ac er y bydd biliau ynni yn codi 20% o Ebrill 2023, dyw'r cymorth sydd wedi ei gyhoeddi gan y llywodraeth ar gyfer y rhai mwyaf bregus ddim wedi cynyddu ers y llynedd. "
“Â dweud y gwir, gyda'r cynllun cymorth biliau ynni yn dod i ben, bydd aelwydydd ar eu colled, ac mewn gwaeth sefyllfa na'r gaeaf presennol."
“Mae'n rhaid i'r llywodraeth wneud mwy i helpu miliynau o gartrefi a fydd yng nghanol tlodi tanwydd trwy gydol 2023."
Yn ôl yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Mel Stride, mae'r llywodraeth wedi cadw at ei haddewid ac yn "amddiffyn y mwyaf bregus."
"Bydd y taliadau hyn, sy'n werth cannoedd o bunnau yn darparu cymorth allweddol i'r rhai ar yr incwm isaf,"'meddai.