Miloedd yn ffarwelio â Pele

Mae miloedd o gefnogwyr pêl-droed wedi heidio i strydoedd Santos ym Mrasil i roi eu teyrnged olaf i Pele, a fu farw ar 29 Rhagfyr yn 82 oed.
Yn cael ei ystyried gan nifer fel y pêl-droediwr gorau erioed, cafodd ei arch ei chludo i ganol stadiwm Vila Belmiro lle bydd Pele yn gorwedd am 24 awr.
Ddydd Mawrth, bydd yr arch yn gadael y stadiwm ac yn cael ei chludo trwy strydoedd Santos i gartref mam Pele, sy'n 100 oed.
Yna bydd Pele yn cael ei gladdu mewn mynwent yn Santos, gyda'i deulu yn unig yn bresennol.
Nos Sul, fe dreuliodd rhai cefnogwyr y noson yn cysgu y tu allan i stadiwm Vila Belmiro er mwyn bod ymhlith y cyntaf i ffarwelio â Pele - yr unig bêl-droediwr erioed i ennill Cwpan Y Byd deirgwaith.
Rhagor yma