Gwasanaeth claddu Pele i'w gynnal wedi tridiau o alaru cenedlaethol
Bydd y pêl-droediwr Pele yn cael ei gladdu mewn gwasanaeth preifat ym Mrasil, wedi tridiau o alaru cenedlaethol yn y wlad.
Yn cael ei ystyried gan nifer fel y pêl-droediwr gorau erioed, bu farw ar 29 Rhagfyr yn 82 oed, ar ôl dioddef o ganser y coluddyn.
Ddydd Llun, cafodd ei arch ei chludo i Stadiwm Vila Belmiro, lle mae ei gyn-glwb Santos yn chwarae.
Heidiodd miloedd o bobl i Santos er mwyn gweld corff Pele yn gorffwys yn y stadiwm. Roedd nifer wedi treulio'r noson flaenorol yn cysgu y tu allan i'r stadiwm.
Roedd pennaeth FIFA, Gianni Infantino ymhlith y miloedd a oedd yn bresennol yn y stadiwm.
Fore Mawrth, bydd yr arch yn cael ei chludo trwy ddinas Santos i dŷ mam Pele, sydd yn 100 oed.
Yn dilyn hynny, bydd yn cael ei gladdu mewn gwasanaeth i'w deulu yn unig.
Pele yw'r unig bêl-droediwr erioed i ennill Cwpan Y Byd deirgwaith. Fe sgoriodd ei gôl gyntaf yn y bencampwriaeth honno yn erbyn Cymru yn 1958, pan roedd yn 17 oed.