Y gyfres ddiweddaraf o streiciau yn dechrau ar y rheilffyrdd
Mae cyfres newydd o streiciau gan weithwyr trenau yn dechrau ar hyd a lled y DU ddydd Mawrth.
Fe fydd gweithwyr Network Rail yn cadw draw o'u gwaith wrth i'r anghydfod dros gyflogau barhau.
Dyma'r diwrnod cyntaf o bedwar y bydd aelodau undeb yr RMT ar streic yn ystod wythnos gyntaf y flwyddyn, gyda rhagor o weithredu diwydiannol ar y gweill ar gyfer 4,6, a 7 o Ionawr.
Yn sgil y streiciau, mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio pobl i beidio teithio os nad yw hynny'n angenrheidiol.
Bydd gwasanaethau llai yn cael eu cynnal rhwng Caerdydd Canolog a Rhymni a rhwng Caerdydd Canolog a Chasnewydd.
Ni fydd unrhyw wasanaethau ar 3,4,6 a 7 o Ionawr, ac mae disgwyl y bydd y trenau yn brysur ar 5 ac 8 o Ionawr.